Sut i arddio yn yr hydref

  • Cyhoeddwyd
meinir

"Mae 'na lwyth i wneud yn yr ardd ar y funud, os nad mwy nag unrhyw adeg arall 'swn i'n deud!"

Dyna eiriau'r arddwraig Meinir Gwilym, sy'n credu bod yr adeg yma o'r flwyddyn yn berffaith ar gyfer garddio, ac mae cyflwynydd y gyfres Garddio a Mwy ar S4C wedi cynnig cyngor ar beth allwch chi wneud yn eich gardd cyn i'r gaeaf gyrraedd.

Mae o'n amser prysur, yn fwy prysur na'r Gwanwyn. Mae'r pridd yn dal yn gynnes felly mae chwyn yn dal i dyfu ond mae 'na lawer o liw o gwmpas dal.

Peth braf i wneud adeg yma ydi cynaeafu - felly llysiau fel tatws a ffa. Mae courgettes yn dal i fynd hefyd a gobeithio os oes gennych chi dŷ gwydr go gynnes mae pupur a chilli yn cochi erbyn rŵan. Ac afalau wrth gwrs… os oes gennych chi goeden ma' hi'n amser hel y rheiny.

Mae hi'n eithaf mwyn ym mis Medi dydi ond un o'r pethau pwysicaf ti'n gwneud rŵan ydi paratoi at flwyddyn nesa'… Ond lle mae dechrau tybed?

1. Hau llysiau

Fedri di fwyta lot o bethau ti'n hau rŵan dros y gaeaf… dail salad a dail mwstard a phethau felly. A phethau sydd yn aeddfedu yn sydyn - fedrwch chi hau radish rŵan a fydd gen ti gnwd o rheiny ymhen rhyw ychydig iawn.

Ond, peth pwysig hefyd ydi cael cnwd yn gynt ar gyfer flwyddyn nesaf - fedri di hau llysiau fel pys, ffa a bresych - mae'r rhain yn tyfu'n araf dros yr hydref a'r gaeaf, a pan mae'r gwanwyn yn dod mi fyddan nhw yn barod yn gynt.

Hefyd os dydach chi ddim wedi hau nionod fedrwch chi blannu setiau nionod rŵan, a garlleg, ac mi 'neith y rheiny roi cnwd yn gynt flwyddyn nesaf.

2. Gorchuddio

Wrth i chi gynaeafu mae 'na bridd noeth yn dod yn yr ardd lysiau wrth gwrs, ac os nad wyt ti yn hau neu blannu rhywbeth yn lle pethau ti wedi cynaeafu mae hi yn reit bwysig gorchuddio'r pridd noeth. Fedrwch chi ddefnyddio cardbord neu tail gwyrdd, sef be' dwi'n defnyddio.

Tail gwyrdd ydi pethau fel ffa a meillion - nitrogen setting maen nhw yn galw nhw - maen nhw'n cymryd nitrogen o'r aer ac yn ei roi o yn y pridd felly mae hwnna yn un da iawn i wneud ac yn ffordd naturiol iawn o roi maeth yn dy bridd.

Mae'r rhain yn nadu'r maeth i ddod allan ac wedyn cyn iddyn nhw flodeuo a cyn iddyn nhw fyd i hâd tua mis Chwefror, eu palu nhw yn ôl mewn i'r pridd.

Hefyd os wyt ti yn gorchuddio gyda cardbord rwyt ti yn nadu mwy o hadau chwyn rhag mynd ar y lefel uchel na o bridd ac mae gen ti lai o chwyn at flwyddyn nesa'.

3. Yr ardd flodau

Mae 'na lot o flodau yn dal i fynd adeg yma hefyd. Mae sedum yn dal i ddenu llwyth o wenyn ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Meinir Gwilym

Mae rhosod hefyd yn rhoi ail a trydydd flush ar y funud os rydach chi wedi bod yn torri nhw - felly mwynhau gwneud hynna ydi un o'r pethau pwysig achos 'da ni'n cael tywydd eithaf heulog.

Peth arall ydi meddwl flwyddyn nesa wrth gwrs yn yr un ffordd ag yn yr ardd lysiau.

Mae hi'n amser da i hau blodau blynyddol rŵan… Blodau fel y felin mair, glas y niwl, a phabi. Hau'r rheiny rŵan ac fe ddaw nhw yn gynt flwyddyn nesaf. Dim ond i'w cadw nhw allan o lefydd ofnadwy o wlyb neu wyntog.

Be' fydda i'n gwneud fydd rhannu planhigion lluosog hefyd - perennials sydd wedi tyfu yn fawr. Os ydyn nhw yn rhai sydd yn blodeuo cyn canol mis Mehefin mae rŵan yn adeg dda i'w rhannu nhw.

Sut? Eu codi nhw a rhoi rhaw yn eu canol nhw a'u rhannu nhw yn ddau neu yn dri neu bedwar!

Ffynhonnell y llun, Meinir Gwilym

4. Dim rhy dwt!

Tra rydach chi'n plannu eich bylbiau gwanwyn ar gyfer blwyddyn nesaf meddyliwch ar yr un pryd "www, edrycha ar y gornel yna yn fan'cw, mae 'na domen o ddail wedi hel yna yn barod, dwi am adael nhw yn fanna".

Mae angen gadael rhai llefydd yn ein gerddi yn lloches i fywyd gwyllt dros y misoedd oer 'ma - da' ni gyd yn gwybod nad oes llawer o ddraenogod o gwmpas - ond mae pethau fel hyn yn gallu ffeindio lloches i gysgu yn ein gerddi ni.

Ffynhonnell y llun, Meinir gwilym

Mae'r un peth yn wir am anifeiliaid eraill fel brogaod ac os wyt ti yn gadael twmpath o ddail a darnau o bren a choed o gwmpas mae 'na bryfetach yn mynd arnyn nhw sydd yn eu tro yn fwyd i wahanol bethau fel adar.

Wedyn erbyn y gwanwyn, os wyt ti wedi helpu pethau fyw, mae'r adar bach yn bwyta'r pryfaid bach gwyrdd sydd yn ymosod ar y pethau ti'n tyfu

Mae cadw llefydd blêr yn ofnadwy o bwysig dwi'n teimlo - da' ni braidd yn rhy angerddol am fod rhy daclus yn ein gerddi rhag ofn cael ein beirniadu… ond pwy sydd am ein beirniadu ni? Neb!

Ffynhonnell y llun, MeinirGwilym

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig