'Priodi plymer? Na, fi moyn bod yn un!'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y plymer o Sir Gâr sy'n gwneud ei henw ym 'myd y dynion'

Mae menyw ifanc o Bontyberem sydd yn rhedeg ei chwmni plymio a gwresogi ei hun yn annog mwy o ferched i hyfforddi yn y maes.

Fe wnaeth Gemma Pickett, 30, sy'n fam i ddau o blant, gyrraedd rownd gyn-derfynol cystadleuaeth Screwfix i bobl yn y diwydiannau adeiladu.

Ers 2017, mae hi'n gwasanaethu cwsmeriaid gyda'i chwmni GCI Plumbing.

Yn ôl cwmni Direct Line, dim ond tua 1,000 o ferched sydd yn gwneud gwaith plymio trwy Brydain.

Mae hynny yn cymharu gyda 52,000 o ddynion.

'Fi moyn plymio fy hunan!'

Dywed Gemma bod y diddordeb mewn plymio wedi dechrau rai blynyddoedd yn ôl.

"Roedd Dad wedi dweud wrtha'i briodi plumber. Dywedais i, sai moyn! Fi moyn plymio fy hunan!

"Os oes digon o arian gyda nhw, fi moyn yr arian! Dyna ddechreuodd - edrychais i ar gyrsiau yng Ngholeg Sir Gâr ac fe wnes i Plymio Lefel 1."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gemma Pickett bod y gwaith yn heriol ond bod wrth ei bodd

Erbyn hyn, mae'n gwasanaethu ardal Sir Gâr ac yn gwneud gwaith ar systemau gwres canolog a gwaith plymio cyffredinol.

"Mae'n challenging, a fi'n lico challenge. Fi'n joio'r cwsmeriaid a chwrdd â chwsmeriaid gwahanol."

Ni chyrhaeddodd Gemma y rownd derfynol ond dywed ei bod yn hynod o falch o wneud mor dda.

"Ro'n i wedi dechrau cystadlaethau yn y coleg a chael gwobr gyntaf. Wedyn wnes i geisio am Screwfix Top Tradesperson y Flwyddyn ac fe gyrhaeddais i'r semi-finals. Dwi mor hapus gyda beth dwi wedi cael.

"Mae eisiau mwy o push ar ferched. Dwi'n hapus i helpu nhw mas i drio fe, i weld os maen nhw'n mynd i joio fe. Mae'n man's world really. Ond bydde ni'n lico pwsho i drio cael mwy o ferched o'r ardal i wneud plymio."

'Angen cyrraedd targedau'

Yn ôl elusen Chwarae Teg, mae angen i gyflogwyr a'r rhai sydd yn darparu hyfforddiant wneud mwy i sicrhau bod rhagor o ferched yn hyfforddi yn y maes.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Helen Antoniazzi o Chwarae Teg ei bod yn bwysig hyfforddi mwy o ferched i wneud gwaith fel plymio

Dywed Helen Antoniazzi, Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebu Chwarae Teg: "Mae yna fwlch enfawr, ac mae'r llywodraeth wedi gwneud lot o waith i geisio cael incentives i gael mwy o fenywod.

"Ni'n galw ar y llywodraeth i ddweud wrth golegau, cwmnïau a phawb sy'n darparu prentisiaethau na fyddant yn cael arian os nad ydynt yn cyrraedd targedau penodol o ran merched.

"Efo'r skilled trade occupations, mae tua 90% yn ddynion.

"Mae angen i ni sicrhau bod ni'n hyfforddi menywod i wneud y swyddi hyn."

Pynciau cysylltiedig