Teyrnged i ddyn lleol a laddwyd mewn gwrthdrawiad ym Môn
- Cyhoeddwyd
Dywed Heddlu'r Gogledd mai Christopher Brierley, 40, o ardal Porthaethwy oedd y dyn a laddwyd mewn gwrthdrawiad yn Llangoed ar Ynys Môn ddydd Sadwrn.
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei deulu: "Yn drist bu farw Christopher yn sydyn a chyn pryd.
"Roedd o'n dad ymroddedig i bedwar o blant, yn gefnogwr rali brwd a bydd yn cael ei golli'n fawr gan ei bartner, ei blant a phawb oedd yn ei adnabod.
"Rydym yn gwerthfawrogi preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Mae plismyn yn parhau i apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, a oedd yn cynnwys un cerbyd Mitsubishi Outlander du, neu gan unrhyw un a oedd yn teithio ar ffordd y B5109 rhwng Llangoed a Biwmares ychydig cyn 16:20 brynhawn Sadwrn.
Dywed y Sarjant Raymond Williams o Uned Blismona'r Ffyrdd: "Mae fy nghydymdeimlad dwysaf gyda'r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2021