'Hi oedd yr haul ar y radio': Cofio Magi Dodd

  • Cyhoeddwyd
Magi Dodd

Fe ddaeth y newyddion ar 22 Medi bod y cyflwynydd a chynhyrchydd radio o Bontypridd, Magi Dodd, wedi marw yn 44 oed.

Mae llawer o deyrngedau wedi eu rhoi gan bobl o wahanol feysydd yn dilyn marwolaeth Magi bythefnos yn ôl, gyda llawer yn ei chofio fel cyflwynydd radio cefnogol i gerddorion ifanc, ac am ei phersonoliaeth llawn hwyl a direidi.

Mae BBC Cymru Fyw wedi gofyn i chwe pherson oedd yn 'nabod Magi rannu eu hatgofion ohoni.

Mei Gwynedd, cerddor a chydweithwir

"Glamorous. Hwyl. Caredig. Dyma ambell air sydd yn dod i'r cof wrth feddwl am Magi.

"Roedd hi'n angerddol am gerddoriaeth Cymraeg ac yn gefn mawr i lu o fandiau ac artistiaid, gyda ei gwaith tu ôl i'r llenni. Roedd ganddi hi y ddawn o godi ysbryd, ac yn chwa o awyr iach gyda'i hiwmor hwyliog ac unigryw.

"Mi fydda i'n trysori'r holl atgofion fel cerdded mewn i ysgolion i wneud gweithdai cerdd gyda hi, a phawb o'r plant a'r athrawon yn troi i sylwi arni hi yn ei high heels a shades! Wastad yn dod â phelydryn o heulwen, hyd yn oed ar fore Llun glawog.

"Braint oedd cael bod yn ffrind i Magi."

Disgrifiad o’r llun,

Magi gyda'i chyd-gyflwynydd yn ystod ei dyddiau C2, Glyn Wise

Nia Medi, ffrind a chyn-gyflwynydd Radio Cymru

"Pan ddechreuais i gyflwyno ar C2 nôl yn 2009 fe wnaeth Magi estyn y croeso cynhesaf i fi fel aelod newydd o'r tîm ac roedd ei phresenoldeb, boed yn y swyddfa, yn y stiwdio neu ar ochr arall y ffôn yn cynnig cyngor yn hollol lysh.

"Dyma ferch oedd wedi byrstio ar y tonfeddi radio mewn byd darlledu a sin gerddoriaeth oedd yn cael ei ddominyddu yn bennaf gan ddynion ar y pryd. Roedd hi'n wybodus, yn hwyl, yn hardd ac yn angerddol am y byd pop a'r byd pop Cymraeg yn arbennig.

"Hyd yn oed cyn i mi ddechrau cyflwyno ar yr orsaf, hi oedd y rheswm roeddwn wedi dechrau gwrando yn rheolaidd am iddi ddod â'r holl rinweddau ffres yma i Radio Cymru. A doedd neb - neb - yn gallu 'neud banter fel Magi!

"Ond cyn hynny, roedd Magi wedi bod yn gefnogol iawn i fand roeddwn wedi dechrau canu gyda nhw, sef y band pop Clinigol, ac roedd ei hangerdd hi am y band ac am gerddoriaeth pop Cymraeg yn chwa o awyr iach mewn sin Gymraeg oedd yn gallu bod yn snobyddlyd tuag at y genre hynny.

Ffynhonnell y llun, MaesB
Disgrifiad o’r llun,

Magi ar lwyfan Maes B, Eisteddfod 2008

"Yn ei hamser sbâr roedd Magi yn caru rhedeg a bydde'i rhestr chwarae yn neidio o fandiau fel Clinigol i Calvin Harris i Diffiniad i David Guetta mewn segways perffaith, yn union fel ei rhaglenni radio.

"A dyna oedd un o gryfderau mawr Magi. Roedd hi'n sylweddoli cariad pobl ifanc tuag at gerddoriaeth pop y siartiau Prydeinig a'r angen felly i chwarae pop Cymraeg ar ei rhaglenni ac ar deithiau ysgolion C2 er mwyn dangos i bobl ifanc ein gwlad bod pop gwych o safon ar gael yn ei hiaith nhw eu hunain, a bod posib mwynhau'r ddau beth.

"Mae dylanwad Magi arnaf i yn bersonol a'r sin gerddoriaeth Gymraeg yn gyffredinol yn anferth a dwi'n mawr obeithio y byddwn yn anrhydeddu a chofio'r fenyw arbennig yma - a roddodd ei bywyd i fyd cerddoriaeth a darlledu Cymru - yn y dyfodol.

"Ond yn bennaf oll roedd hi'n ffrind. Hi oedd yr haul ar y radio ac ym mywydau gymaint ohonom. Bydda i'n dy golli di'n fawr fy ffrind annwyl, Magi Dodd."

Ifan Davies, prif leisydd Sŵnami a chydweithiwr

"Roedd Magi bob tro mor gefnogol, hwyliog ac yn angerddol dros gerddoriaeth Cymraeg.

"Magi oedd un o'r cyflwynwyr cynta' i chwarae Sŵnami ar y radio, y cynta' i brynu t-shirt y band, (er pa mor wael oedd o) ac mi oedd hi dal i ganu Mwrdwr ar y Manod bob tro (un o'n caneuon cynnar) pan fyse hi'n ffonio!

"Ma' gennai gymaint o atgofion da o deithio o amgylch stiwdios y BBC dros Gymru i gyflwyno'r cwis pop efo Magi. Roedd ganddi wir ddiddordeb mewn pobl, ac mi roedd hi'n cofio enwau bob aelod o bob tîm ar hyd y daith. Mi roedd hi'n creu argraff ar bawb oedd hi'n ei gwrdd lle bynnag oedden ni'n mynd.

"Roedd ei llais yn eiconig ar Radio Cymru, a'r holl deyrngedau ar y cyfryngau yn profi gymaint o feddwl oedd gan bawb ohoni."

Disgrifiad o’r llun,

Magi Dodd gyda'r band Sŵmani yn yr Eisteddfod

Georgia Ruth, cerddor a chyd-gyflwynydd

"Y tro cyntaf i fi 'gwrdd' â Magi, o'n i'n gwisgo pâr o headphones mewn stafell ar ben fy hun yn stiwdio BBC Aber, a'i llais hi'n dod i lawr y lein o Gaerdydd yn fy nghlust.

"Newydd ddechrau gweithio fel cerddor oeddwn i, ac roedd Magi yn cyfweld â fi ar gyfer Dodd.com. Dwi'n cofio teimlo mor hapus i fod yn siarad efo hi: y person egnïol, hoffus 'ma ar ochr arall y lein, efo'r acen oedd yn f'atgoffa o un ochr fy nheulu. Roedd jyst rhywbeth amdani.

"Blynyddoedd yn ddiweddarach, ges i'r cyfle i weithio'n agos iawn efo hi ar fy rhaglen Radio Cymru. Fel cynhyrchydd, roedd hi'n wych: roedd yr egni a'r sbarc 'na yn codi'r ysbryd pan roedd angen, a'i chwerthiniad a'i phresenoldeb yn fyw yng nghefn pob linc.

"Roeddet ti jyst eisiau bod hefo hi. Dwi'n cofio ni'n dawnsio 'da'n gilydd i Badfinger un noson, yn chwerthin nes ein bod ni'n crio.

"Roedd hi'n gyflwynydd arbennig, yn berson addfwyn a sbesial, ac mae'r golled yn enfawr."

Disgrifiad,

Roedd Magi Dodd yn cyflwyno rhaglen Y Sioe Sadwrn gyda Glyn Wise yn 2006

Hywel Gwynfryn, cydweithiwr a ffrind

"Ers i mi glywed y newyddion trist dwi wedi bod yn holi fy hun ac yn gofyn - pam dwi'n colli Magi gymaint? Ac wrth gwrs does 'na ddim ond un ateb - nid mwynhau gweithio efo Magi yr oeddwn i - roeddwn i'n caru gwneud.

"Roedd hi'n un o gynhyrchwyr gorau Radio Cymru, ac yn gyflwynydd dawnus gyda'i steil unigryw ei hunan a'i llaw bob amser yn gadarn ar y llyw.

"Fe fydd 'na gannoedd o ysgolion yng Nghymru yn cofio Magi yn dod ar ymweliad i gynhyrchu a chyflwyno y cwis pop, a thrwy wneud hynny yn cenhadu ar ran y gwasanaeth cenedlaethol yr un pryd.

"Roedd hi'n ymhyfrydu yn ei thras fel merch o Bontypridd - neu Ponty Girl fel bydde hi'n ddweud. Iddi hi, Ponty oedd canolbwynt y bydysawd, a heddiw, yn ngeiriau Aneurin Karadog 'ym Mhonty'r galon mae mintai'n wylo'."

Steffan Dafydd, prif leisydd Breichiau Hir

"'Nath Magi helpu ni lot pan 'nathon ni ddechre mas fel band yn ein harddegau - a 'nath hi probabli ddim sylwi bod hi'n 'neud chwaith. Ma' dechre band pan chi basically methu chwarae yn gallu bod yn frawychus.

"Ond o'dd egni positif Magi yn rhoi gymaint o hyder i ni, ac yn 'neud i ni deimlo fel bod ni ar y trac cywir.

"O'dd hi'n llawn hwyl, direidi a phositifrwydd llwyr sy'n meddwl oedd bod yn cŵl, moody a mysterious byth yn opsiwn i fandie fel ni pan odde chi'n cal eich cyfweld gan Magi - and rightly so."