Pwy ydi’r artist Billy Bagilhole?
- Cyhoeddwyd
Mae Billy Bagilhole yn un o artistiaid ifanc mwyaf cyffrous Cymru ac yn un o 150 artist o bob cornel o'r byd sy'n cael ei waith ar wal arddangosfa enwog yr Art Biennale yn ninas Chengdu, China, fis nesaf.
Ar hyn o bryd mae ganddo arddangosfa unigol yn oriel Blue Shop Cottage yn Llundain ac ymhen pythefnos bydd ei waith wedi ei leoli drws nesaf i artistiaid enwog fel Mark Titchner, Anish Kapoor, Maggi Hambling a Joanna Lumley mewn oriel i godi arian i elusen Combat Stress.
Yn wreiddiol o Bwllheli ym Mhen Llŷn ond bellach yn byw yn Llundain ers astudio Celf Gywrain yn y Chelsea College of Arts, Cymru Fyw gafodd gipolwg ar fyd a meddylfryd y dyn tu ôl i'r brwsh.
O le ddaeth dy ddiddordeb mewn celf?
Nes i dyfu fyny ar fferm tu allan i Bwllheli. Mae o yn ganol nunlla ac roedd fy hen Daid yn byw yn y tŷ. Mae fy nheulu o hyd wedi byw ar y fferm yma a'r un drws nesa.
Gwaith Dad, Robin Bagilhole, ydi'r holl reswm nes i ddechrau gwneud be' dwi'n gwneud. Roedd ganddon ni stiwdio fyny yn y llofft yn y tŷ. Ro'n i'n arfer cerdded mewn yn ifanc iawn lle ro'n i'n gweld y paintings mawr 'ma i gyd a phaent yn bob man.
Roedd o'n ddylunydd graffeg oedd yn gwneud printiau rili blocky, glân ac yn gwneud patterns repetitive.
Wnaeth o farw yn 2001 pan o'n i'n chwech oed. Yn nes at ddiwedd ei fywyd wnaeth o wneud cyfres o paintings lliwgar enfawr a dyna dwi'n cofio mwyaf. Roedd y tŷ yn llawn lliwiau a symbolau.
Yn blentyn pan mae rhywun yn gofyn wrthat be' ti isio bod - mae pobl yn deud spaceman neu be' bynnag... Ro'n i isio bod yn wrestler, ffarmwr ag artist i gyd ar yr un pryd. Nes i ddilyn llwybr Dad.
Dyma ydi foundation bob dim i fy ngwaith i heddiw.
Ydi'r ardal lle ges di dy fagu wedi dylanwadu ar dy waith?
Definitely. Mae 'na lot o bobl dwi wedi tyfy fyny hefo - pobl ro'n i yn ysgol efo ac oedd o fy ngwmpas i wedi cael dylanwad mawr arna i. Mae 'na characters yno ti ddim yn gweld yn Llundain a mewn dinasoedd.
Pobl gogledd Cymru ydi pobl gogledd Cymru - mae lot o'r pobl yna yn y paintings i gyd. Mae ffrind Mam fi, Anti Mo, yn rhai ohonyn nhw!
Ro'n i hefyd yn peintio lot o'r elfennau gwyllt o fywyd yng ngogledd Cymru. Trio gwneud synnwyr o'r distawrwydd 'na a'r trefi bach a'r bywyd gwyllt. Dreifio rally cars a mynd yn pissed. Mae'r pethau yma i gyd yn dod mewn i'r gwaith.
Dw i definitely yn meddwl bod y gwaith yn newid lle bynnag ydw i. Ond mae'r atgofion yma yn dod yn ôl ato fi achos dwi'n dueddol o gymharu lle bynnag ydw i ar y pryd efo lle o'n i'n tyfu fyny.
Er enghraifft dwi'n meddwl am y straeon roedd Mam yn deud wrtha i am dyfu fyny. Mae teulu yn bwysig i fi a dyna sydd yn denu fi yn ôl.
Mae lot o'r gwaith jest yn llifo allan. Mae'n anodd predictio be' sydd yn mynd i ddod ond yn aml mae o yn mynd a fi yn ôl adra achos ei fod o yn agos at fy nghalon i.
Sut fyddet ti yn disgrifio dy waith?
Dwi'n terrible yn disgrifio fy ngwaith i. Pan o'n i'n gwneud crits yn Uni o'n i methu deud dim byd, ro'n i jest yn ista yno yn dawel a meddwl "you tell me".
Ond os oes rhaid faswn i yn disgrifio fo fel abstract, yn dy wyneb, lot o ddirgel, 'chydig o hwyl a digon o liwiau.
Dwi fel lot o bobl sydd ddim yn hoff o fod yn y spotlight am rywbeth ti wedi gwneud. Er hynna dwi yn licio clywed be' mae pobl eraill yn deud. Yn aml mae 'na rywun wedi gwneud connection sydd weithiau ddim byd i wneud efo be' mae'r gwaith, sy'n ddiddorol.
Deud dy fod di yn edrych ar waith Caravaggio neu hen painting Renaissance dwi wrth fy modd yn trio gweithio allan be sy'n mynd 'mlaen yn y stori. Mae'r hwyl o sbïo ar gelf yn dod o'r dirgel sydd yn y celf ei hun.
Oes gen ti broses o greu?
Be' 'na i ydi gwneud pump i chwe mis o waith dwys iawn. 'Na i ddechrau wrth wagio'r stiwdio i gyd, printio llwyth o dudalennau o wynebau a symbolau a bob mathau o bethau a'u rhoi nhw ar y wal.
Ar ôl hynna mae o'n rhyw fath o whirlwind. Mae'r stwff sydd o gwmpas fi wedyn yn gwneud eu ffordd mewn i'ng ngwaith i rhywsut. Yna ga i frêc am ryw dri mis lle dwi'n edrych am ysbrydoliaeth eto.
Mae'n rhyw fath o hibernation period lle 'dwi'n cymryd gwybodaeth i mewn, yn mynd allan ar y stryd, yn teithio dipyn a jest cymryd pethau i mewn a meddwl am bethau i beintio amdanyn nhw.
Ar ddiwedd blwyddyn o waith wnâi edrych yn ôl ar be' dwi wedi cyflawni a dissectio fy hun mewn rhyw ffordd. Gwneud dadansoddiad seiciatric ohonof i fy hun a gweld lle oedd fy mhen i ar y pryd achos mi fedri di gysylltu'r dotiau wrth edrych yn ôl. Mae hynna'n rwbath dwi'n ffeindio hi'n anodd gwneud ar y pryd.
Mae'n broses weird... Mae 'na enghreifftiau fel darlun nes i neud blynyddoedd yn ôl lle mae 'na gwch ac mae 'na esgyrn yn disgyn i'r dŵr. Dwi'n cofio ges i nightmare mis ynghynt lle oedd Dad yn gweiddi arna i. Roedd o'n od iawn achos roedd o yn arfer adeiladu cychod pren i fi pan oeddwn yn fach.
Rhywsut roedd y stori fach yna 'di gwneud ei ffordd mewn i'r painting a doeddwn i ddim yn gwybod be' oedd o tan tua blwyddyn wedyn.
Oes na unrhyw artistiaid penodol wedi dylanwadu ar dy waith di?
Pan ti'n mynd i dy gwrs Foundation yn y coleg ti'n dod i 'nabod gwaith artistiaid fel Basquait, Baselitz, John Bellamy, Carravaggio. Be' oeddwn i yn dueddol o wneud fy hun oedd casglu lluniau o'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd a hen ffilmiau o'r 50au.
Dw i dal yn gwneud hynna rŵan - mae gen i fascination efo lluniau.
Doeddwn i ddim yn aml yn edrych ar artist ag astudio nhw ond ro'n i yn aml yn hoffi edrych ar y ffordd roedden nhw'n paentio.
Ar ôl mynd i Uni roeddwn yn edrych ar fwy o ffilms a contemporary painters. Pobl fel Florence Hutchings, Cannon Dill, a phobl Cymraeg fel Meirion Ginsberg. Ond llawer iawn iawn o ffilms - dwi'n hoffi gweld sut mae'r rhain yn translatio mewn i paintings. Dwi wrth fy modd efo gwaith cyfarwyddwyr fel David Lynch, Wes Anderson ac Andrei Tarkovsky.
I ba raddau mae'r byd ffilm yn dy ysbrydoli di felly?
Llwyth. Dw i wedi bod yn gwneud nhw ers dechrau Coleg. Dwi wedi bod yn gwneud fideos miwsig ers blynyddoedd hefyd. Dw i'n teimlo ei fod o yn ffordd rili intriguing o wneud gwaith. Mae'n gyffrous achos ti yn gallu gwneud combination o lot bethau - plethu darluniau a cherddoriaeth a ballu. Mae 'na lot o mistêcs da sydd yn digwydd ym myd ffilm hefyd.
Yn ddiweddar dw i wedi bod yn astudio philosphy cinematography. Felly edrych ar sut mae pobl yn defnyddio cysgodion a golau i greu mood. Mae 'na foi o'r enw Vitorio Storraro wnaeth wneud y cinematogrpahy i Apocalypse Now. Mae'n sôn lot am theori lliw a sut mae shots glas, melyn neu goch neu liwiau eraill yn gallu effeithio subconsciously ar bobl.
Dw i'n meddwl ei fod o yn translatio yn ôl i baentio. Dw i heb edrych ar baentio yn yr un ffordd o'r blaen. Dw i wedi gwneud painting massive melyn - mae melyn yn gallu translatio i madness ond hefyd hapusrwydd. Mae dod i ddallt byd ffilm yn helpu fi ddallt byd paentio.
Dwi'n gobeithio mynd i Texas, New York neu rwla yn Ewrop i wneud cwrs Masters mewn ffilm. Dydi o ddim yn guaranteed, ond dyna ydi'r plan!
Pa bethau eraill wyt ti'n hoff o greu?
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth, er bo' fi wedi arafu lawr chydig ar greu rŵan. Mae gen i gerddoriaeth electronig allan yna ond dwi heb wneud llawer ers tipyn. Dwi'n gweithio mewn urges a dwi'n siŵr ddaw'r urge yna eto yn fuan i ryddhau mwy.
Dwi'n gwneud tatŵs o dan yr enw Billy The Kid. Nes i ddechrau o adra efo machine gwael a tatŵio ar fy nghoes wedyn nes i jest ddysgu fy hun ar Youtube a chael job mewn stiwdio. Mae o 'di escalatio i fod yn job llawn amser i fi rŵan!
Dw i hefyd yn rhedeg galeri o'r enw La Bamba efo fy ffrind ac artist Cybi Williams. Mae'r enw yn dod o gân Ritchie Valens - ro'n i yn obsessed efo'i gerddoriaeth o yn hogyn ifanc. Mae o wedi slofi lawr dipyn rhwng bob dim - ond mi fydd o yn siŵr o ddod yn ôl mewn rhyw ffordd ac mae ganddon ni syniadau hollol boncyrs.