Paentio eiconau Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae wyneb y gantores Margaret Williams yn gyfarwydd i nifer fawr o Gymry, ond ar ôl ei chyfarfod dim ond dwywaith mae Sarah Carvell yn ei hadnabod cystal â neb.
"Mae lliw ei llygaid fel rhai dwi erioed wedi gweld o'r blaen, ac mae siâp ei thrwyn hi - mae'n siâp lyfli," meddai Sarah.
"Dwi'n adnabod ei hwyneb mwy nac unrhyw wyneb arall nawr gan mod i wedi edrych mor fanwl arno."
A'r rheswm dros hyn ydi bod yr artist wedi bod yn gweithio ar greu portread ohoni am oriau maith.
Margaret Williams ydi un o chwech o eiconau Cymru sydd wedi eu paentio gan wahanol artistiaid ar gyfer cyfres Cymry ar Gynfas ar S4C. Ac mae'r ddwy - y gantores a'r artist - yn dweud eu bod wedi mwynhau'r broses, er nad oedd bob tro yn rhwydd.
Tirluniau ydi arbenigedd Sarah Carvell, a heblaw am beintio llun o ffrind yn ddiweddar doedd hi heb wneud portreadau ers blynyddoedd.
Fe wnaeth hi gyfarfod Margaret Williams ar Ynys Môn, er mwyn gallu lleoli'r gantores ar draeth ym Mrynsiencyn, yr ardal lle cafodd ei magu. Ar ôl tynnu ffotograffau a brasluniau ohoni, aeth yn ôl i'r stiwdio i weithio ar y llun dros gyfnod o amser.
Meddai: "Nes i fedru gwneud y tirlun yn y cefndir, dwi wedi arfer gwneud tirluniau ond Margaret... o wow! Nes i ei phaentio hi o leia' 20 o weithiau, roeddwn i'n rhoi paent ymlaen a chrafu i ffwrdd, paent ymlaen eto, crafu i ffwrdd - drosodd a drosodd, am wythnosau.
"Doeddwn i methu cael tebygrwydd i Margaret a dwi ddim yn meddwl bod y gwaith gorffenedig yn debyg iddi yn y pendraw chwaith. Nes i gael hi'n fwy tebyg mewn sketch charcole nes i wneud yn fyw o flaen y camera."
Fel cantores ac actores sydd yn llygad y cyhoedd ers degawdau, tydi cael tynnu ei llun ddim yn brofiad newydd o bell ffordd i Margaret Williams - ond roedd hwn yn wahanol.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Dwi wedi cael tynnu fy llun gan ffotograffwyr ar gyfer rhaglenni, a phapurau newydd neu gylchgronau gannoedd o weithiau, ond nid eistedd i artist.
"Mae'r maes yn hollol ddieithr i mi a doedd gen i ddim syniad o gwbl sut oedd artist yn gweithio. Ro'n i'n meddwl efallai byddai rhaid i mi eistedd am oriau neu wythnos neu bythefnos.
"Be' ddaeth yn amlwg ydi eu bod nhw angen dod i adnabod y bobl maen nhw'n paentio, dod i adnabod y personoliaeth a hefyd mae'n rhaid cael perthynas rhwng yr artist a'r person maen nhw'n tynnu eu llun, achos os ydi'r artist yn ofnus o'r person, fyddai o ddim yn gweithio.
"Wnes i wir fwynhau'r profiad."
Yn y gyfres, yr eiconau eraill sy'n cael eu paentio ydi'r hyfforddwr rygbi Robin McBryde - gan Iwan Gwyn Parry; y delynores Catrin Finch gan yr artist Annie Morgan Suganami; y cerddor ac archeolegydd Rhys Mwyn gan Luned Rhys Parri; Max Boyce gan Meirion Jones; a Syr Bryn Terfel gan Billy Bagilhole.
Yn ogystal â'r llun, sy'n cael ei ddatgelu ar ddiwedd y rhaglen, mae pob rhaglen yn rhoi portread gonest o'r eicon a'r artist wrth iddynt sôn am eu teimladau o beintio a chael eu paentio.
A tydi'r enwogion ddim yn cael gweld y llun tan mae wedi ei orffen - a hynny o flaen y camerâu.
Doedd Sarah Carvell ddim yn siŵr os oedd Margaret Williams yn hoffi'r llun, yn rhannol gan bod ei gwallt ychydig yn flêr oherwydd ei bod hi ar draeth.
"Dwi'n meddwl gafodd hi ychydig o sioc, doedd ganddi ddim syniad sut oedd o am edrych," meddai Sarah.
"Roedd ei gwallt wedi chwythu gan y gwynt ac roedd hi'n gweld bai ar ei hun ei bod heb wneud ei hun edrych yn iawn, wedyn ro'n i'n teimlo mod i angen ymddiheuro am ei phaentio fel yna.
"Y mwya' roedd hi'n edrych arno, dwi'n meddwl roedd hi'n ei hoffi fwy."
Ac mae Margaret Williams yn cadarnhau hynny: "Pan welish i'r llun gyntaf, yn naturiol roedd yn sioc i mi... I ddechrau roedd i'n meddwl 'O, ydi fy nhrwyn i'n edrych fel yna go iawn?', rhyw bethau bach fel yna.
"Ond dwi mor falch o wedi cael bod yn rhan o'r rhaglen a chael fy mhaentio ym Mrynsiencyn.
"Dwi'n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd, ac wrth fy modd hefo'r ddinas, ond rhaid imi ddeud, mi roedd bod nôl ar lannau'r Fenai yn Bryn yn dod â chymaint o atgofion cynnes nôl imi o fy rhieni a mrodyr, i gyd bellach wedi'n gadael ni.
"Er imi deimlo'n hiraethus yno ar brydiau roedd yr holl atgofion o hwyl hefo'r genod a chriw ohono' ni'n chwara'n braf ar lan y môr yn rhoi teimlad cynnes iawn imi, teimlo mod i 'adra'."
Mae Cymru ar Gynfas ar gael ar S4C Clic ac iPlayer y BBC.
Hefyd o ddiddordeb: