Heriau i'r Ceidwadwyr cyn cynhadledd flynyddol
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf ers i Boris Johnson ennill mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Rhagfyr 2019, mi fydd aelodau'r Blaid Geidwadol yn dod ynghyd y penwythnos hwn ar gyfer eu cynhadledd.
Ond mae yna dro ar fyd wedi bod ers y fuddugoliaeth ysgubol honno bron i ddwy flynedd yn ôl a ganiataodd i Boris Johnson oresgyn yn ddidrafferth yr holl rwystrau a wynebodd ei ragflaenydd a chyflawni Brexit.
Yn gefnlen i'r digwyddiadau dros y dyddiau nesa', mae yna gyfnod digon heriol i Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.
Mae prinder tanwydd, silffoedd gwag mewn archfarchnadoedd, a phrisiau ynni i gyd wedi cynyddu'r pwysau ar Mr Johnson yn ddiweddar.
Roedd yna gryn wrthwynebiad gan rai o fewn ei blaid hefyd i'r cyhoeddiad y bydd trethi'n codi i dalu am bolisi gofal cymdeithasol y llywodraeth.
Ac yna, yn taflu cysgod dros bopeth, mae'r pandemig.
Mae cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU wedi cau erbyn hyn gan greu ansicrwydd i nifer sydd heb ddychwelyd i'r gwaith eto.
Ac felly'r dasg fwyaf i'r Ceidwadwyr ym Manceinion fydd ceisio dangos bod pethau o dan reolaeth, a bod gan Boris Johnson a'i gabinet gynllun ar gyfer yr adferiad economaidd fydd ei angen.
Ac o grybwyll ei gabinet, dim ond fis diwethaf y cafodd rhai aelodau eu penodi i swyddi pwysig newydd o fewn i'r llywodraeth, ac mi fyddan nhw o dan y chwyddwydr hefyd yn ystod y gynhadledd yma.
A beth am Gymru?
Wedi siarad gydag ambell un o'r blaid yng Nghymru, mae'n debyg taw'r neges mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau ei gyfleu'n ystod y gynhadledd yw bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwrw ati gyda'r gwaith o greu swyddi, a gwella safonau byw.
Y farn yw bod Llywodraeth Lafur Cymru ar y llaw arall yn treulio gormod o amser yn canolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol.
Yn siarad ar raglen Wales Politics ddydd Sul, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart: "I fi, mae'n od bod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru'n ymddangos i fod am faterion cyfansoddiadol a datganoli.
"Os rydych chi'n poeni am sut rydych chi'n mynd i oroesi trwy'r gaeaf, rydych chi eisiau clywed am swyddi, bywoliaethau, cynlluniau a ddarpariaeth."
Ond mi fydd yna bwysau ar y Ceidwadwyr i ddangos sut maen nhw'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl - yn enwedig o ystyried y toriad sydd i ddod i daliadau Credyd Cynhwysol.
Mae yna glochdar wedi bod am uchelgais y llywodraeth i "godi'r gwastad" - cyfieithiad Swyddfa Cymru - a gwneud pethau'n decach ar draws y Deyrnas Unedig. Ond er gwaetha'r holl sôn am "levelling up", mae yna gwestiynau o hyd am fanylion y cynlluniau.
Mae Mr Hart yn rhan o banel gydag arweinwyr busnes ddydd Sul.
Fydd arweinydd y grŵp Ceidwadol yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, ddim yn bresennol fodd bynnag oherwydd salwch.
Ym mis Mai fe enillodd y blaid 16 o seddi ym Mae Caerdydd, cynnydd o bump o gymharu â 2016.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2021
- Cyhoeddwyd30 Medi 2021
- Cyhoeddwyd24 Medi 2021