'Ystyried' Wylfa fel rhan o gynlluniau ynni niwclear
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU yn ystyried safle hen orsaf bŵer Wylfa fel rhan o gynlluniau i gynhyrchu mwy o ynni niwclear, meddai Boris Johnson.
Dywedodd y prif weinidog bod llywodraethau ym Mhrydain wedi "gwrthod gwneud penderfyniadau anodd dros niwclear am rhy hir".
Mae swyddogion yn cynnal "trafodaethau archwiliadol" gyda rhai grwpiau sydd eisiau adeiladau gorsaf niwclear newydd ar Ynys Môn.
Cafodd un cynllun ar gyfer gorsaf newydd ei hatal ar ôl i gwmni Hitachi fethu a dod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU dros ariannu'r safle.
Wrth drafod gyda rhaglen Politics Wales BBC Cymru, dywedodd Mr Johnson: "I fod yn onest, mae llywodraethau yn y wlad yma wedi gwrthod gwneud penderfyniadau anodd am niwclear am rhy hir.
"Mae'n rhaid i ni symud ymlaen gyda mwy o ynni niwclear.
"Dwi yn meddwl y dylai fod yn rhan o'n cyflenwad sylfaenol.
"Felly dyna pam rydym yn edrych ar Wylfa yn ogystal â llwyth o brosiectau eraill."
Dywedodd y gallai cost ynni gael ei gadw'n isel "os ydym yn gwneud y buddsoddiadau hirdymor sydd rhaid i ni eu gwneud yn ystod y genhedlaeth ynni glan".
Gallwch wylio Politics Wales ar BBC1 Wales am 10:00 ddydd Sul 3 Tachwedd, neu ar wasanaeth BBC iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2020