Gyrrwr beic modur wedi marw wedi gwrthdrawiad ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd
Seaway Parade, Port TalbotFfynhonnell y llun, Google

Mae gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda "nifer" o geir ym Mhort Talbot, yn ôl Heddlu De Cymru.

Digwyddodd y gwrthdrawiad angheuol rhwng cylchfan Afan Way a chylchfan Parc Ynni Baglan ar yr A4241 ym Mhort Talbot ddydd Gwener.

Bu farw'r gyrrwr beic modur, 60 oed, yn lleoliad y gwrthdrawiad.

Mae'r heddlu'n apelio am unrhyw dystion i'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig