Gêm Wrecsam yn erbyn Aldershot yn cael ei gohirio oherwydd glaw
- Cyhoeddwyd
Siomedig oedd chwaraewyr Wrecsam ar ôl i'w gêm yn erbyn Aldershot gael ei gohirio yn yr ail hanner oherwydd glaw trwm.
Roedden nhw ar y blaen gyda'r sgôr yn 2-0 wedi i Jake Hyde a Paul Mullins sgorio gôl yr un yn yr hanner cyntaf.
Ond fe benderfynodd y dyfarnwr i ohirio'r gêm 52 munud mewn i'r ail hanner wrth i byllau mawr o ddŵr lenwi ar y cae.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ceisiodd chwaraewyr Wrecsam i ysgubo'r dŵr oddi ar y cae, ond fe waethygodd y tywydd.
Bydd gêm y Gynghrair Genedlaethol nawr yn cael ei chwarae ar ddyddiad arall yn hwyrach yn y tymor.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2021