Cynnig i gefnogwyr Wrecsam wrth ail-drefnu gêm
- Cyhoeddwyd

Amddiffynnwr Wrecsam Aaron Hayden yn ceisio clirio dŵr glaw cyn i'r dyfarnwr ddod â'r gêm i ben
Mae un o berchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi dweud bod hi'n bryd sicrhau dyrchafiad o Gynghrair Genedlaethol Lloegr wedi i amgylchiadau ddod â'r gêm yn erbyn Aldershot ddydd Sadwrn i ben.
Roedd Wrecsam ddwy gôl ar y blaen oddi cartref wedi 52 munud o chwarae a'r cae dan ddŵr pan gafodd y chwiban olaf ei chwythu.
Cyn hynny roedd rhai o chwaraewyr Wrecsam wedi ymdrechu'n ofer i ysgubo dŵr glaw o'r maes, dim ond i'r amodau waethygu.
Dywedodd Rob McElhenney: "Rwy'n gwylio ein chwaraewyr yn mopio'r cae er mwyn i'r gêm barhau. Dydw i erioed wedi gweld dim byd tebyg."

Fe ddefnyddiodd chwaraewyr Wrecsam dyweli i geisio sychu'r cae digon i'r gêm allu parhau

Ymgais i glirio dŵr glaw o'r maes wedi glaw trwm
Ychwanegodd ei fod wedi "cael sicrwydd bod bod tirmyn Aldershot wedi gwneud popeth posib" i geisio osgoi stopio'r gêm, gan fynegi diolch i "wirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed iawn, mewn amodau anodd iawn".
Mae'r ddau glwb yn dal i drafod trefniadau ailchwarae'r gêm, ond mae CPD Wrecsam wedi cadarnhau y bydd cefnogwyr a deithiodd ar fysiau swyddogol i Aldershot ddydd Sadwrn yn cael cludiant am ddim.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2021