Tro pedol Cyngor Môn ar amddiffynfeydd môr Penmon
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Cyngor Ynys Môn yn sefydlogi amddiffynfeydd môr ar hyd y Fenai er i gynlluniau gwreiddiol gael eu gwrthod oherwydd honiadau o "fandaliaeth amgylcheddol".
Cafodd y cynllun i ailosod wal 90m sy'n amddiffyn adeilad Cerrig ger Penmon ei wrthod gan y pwyllgor cynllunio ym mis Medi oherwydd pryderon dros ei effaith ar Draeth Lleiniog.
Mae'r traeth wedi'i ddisgrifio fel safle o "ddiddordeb pwysig" i wyddonwyr a daearegwyr ledled y byd.
Cafodd y cynllun ei wrthod gan gynghorwyr lleol oherwydd yr effaith y gallai peirianwaith trwm ei gael ar y traeth sydd llawn henebion o Oes yr Iâ.
Mae Cyngor Môn eisoes wedi cael eu beirniadu gan bobl leol dros niwed i'r traeth ar ôl i glogfeini cael eu symud yn ystod gwaith atal llifogydd yn 2018.
Ond yn dilyn addewid y gall unrhyw ddifrod cael ei liniaru, fe wnaeth y pwyllgor cynllunio newid eu penderfyniad gwreiddiol gan alluogi'r gwaith i fynd ymlaen.
Mewn adroddiad newydd, fe wnaeth yr ymgeisydd dangos fe fydd mesurau i reoli unrhyw niwed i fywyd gwyllt a'r ecoleg - megis cynllun llygredd - yn cael eu gweithredu.
Yn ôl perchennog Cerrig mae'r gwaith yn angenrheidiol oherwydd cyflwr "gwael" yr amddiffynfeydd presennol.
Serch hyn mae'r tri chynghorydd sy'n cynrychioli'r ardal leol wedi beirniadu penderfyniad y cyngor i alluogi'r gwaith i fynd ymlaen.
Dywedodd Carwyn Jones, cynghorydd Plaid Cymru dros ardal Seiriol, fe fydd y gwaith yn newid yr ardal leol yn sylweddol.
"Mae caniatau hyn yn gwawdio'r Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Neilltuol ac unrhyw ddynodiadau eraill sydd wedi'u gwobrwyo... mae'n gwneud nhw'n ddiwerth," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2018