Carcharu gofalwr am dwyllo menyw 100 oed
- Cyhoeddwyd
Mae gofalwr a wnaeth dwyllo menyw 100 oed o £226,000 wedi ei charcharu am bum mlynedd.
Fe ddechreuodd Rhian Horsey, 55, o Groesfaen ger Pontyclun, ofalu am Iris Sansom yn 2003.
Fe'i cafwyd yn euog o saith trosedd o dwyllo rhwng 2011 a 2017.
Dywedodd y Cofnodwr Mark Cotter wrthi tra'n dedfrydu: "Roeddech chi'n chwarae'r rôl o fod yn ffrind ffyddlon a helpwraig tra mewn gwirionedd rydych yn berson anonest a thwyllodrus wedi'ch gyrru gan drachwant".
Yn Llys y Goron Caerdydd dywedodd y barnwr hefyd: "Roedd eich hymosodiad ar ei chyfrifon mor ddidostur fel nad oedd dim ar ôl yn ei chyfrif cadw, oedd â £129,000, erbyn diwedd 2012. Doedd gan Iris ddim cynilion."
Clywodd y llys bod Horsey yna wedi perswadio Iris Sansom i gael morgais ar ei chartref ac roedd hi wedi trefnu cyfarfodydd a oedd yn rhyddhau ecwiti o £200,000.
Cafodd y cyfran cyntaf o £70,000 ei dalu ac fe ychwanegodd y barnwr: "Roeddech chi'n mynd i'r gwaith ac yn gwagio ei chyfrif drwy ddefnyddio cerdyn banc ac ysgrifennu sieciau."
Fe wnaeth y barnwr amlinellu sut y bu i Horsey drefnu bod mwy o arian yn cael ei ryddhau a'i bod yn tynnu £500 y dydd o'r cyfrif.
Roedd cyfanswm yr ecwiti a ryddhawyd yn agos at £200,000 ac roedd y cyfan wedi diflannu erbyn 2017, meddai.
Portreadu ei hun fel 'angel gwarcheidiol'
Pan ddaeth Ms Sansom a'i merch Kathryn Taylor yn ymwybodol o'r arian oedd yn cael ei dynnu fe alwon nhw'r heddlu.
"Nes di bortreadu dy hun fel angel gwarcheidiol Iris pan mewn gwirionedd roeddet ti'n wiber," meddai'r barnwr.
"Mae ei chynilion wedi mynd. Yn waeth na hynny, yn fy marn i, nid yw ei chartref bellach yn eiddo iddi. Mae gan Iris forgais bellach."
Bydd hanner y ddedfryd o bum mlynedd yn cael ei dreulio yn y carchar, a'r gweddill ar drwydded.
Mae cyfarfod adolygiadol wedi ei drefnu gan y barnwr ar gyfer mis Chwefror nesaf i ystyried iawndal ac atafaeliad (confiscation).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2021