Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-1 Chesterfield
- Cyhoeddwyd
Gêm gartref yn erbyn Chesterfield oedd yn wynebu Wrecsam nos Fawrth ar ôl y siom o orfod dod â'r gem yn erbyn Aldershot i ben ddydd Sadwrn oherwydd dŵr ar y cae, a hwythau ddwy gôl i ddim ar y blaen.
Roedd siom i gefnogwyr y Dreigiau ym munudau cyntaf y gêm yn erbyn Chesterfield.
Wedi pum munud cafodd Devonte Redmond ei gosbi am dacl flêr ryw 30 llath o'r gôl ac o'r gic gosb honno fe rwydodd Fraser Kerr y bêl gyda pheniad a rhoi'r ymwelwyr ar y blaen.
Doedd fawr o galon yn chwarae Wrecsam wedi hynny ac yr oeddynt yn gorfod gweithio'n galed i ddelio gydag ymosodiadau Chesterfield.
Ar ôl deugain munud dyfarnwyd cic o'r smotyn i Chesterfield wedi i Rob Lainton yn y gôl dynnu Kabongo Tshimanga i'r llawr ond gwnaeth Lainton iawn am y cyfan drwy arbed y gic o'r smotyn.
Roedd Wrecsam yn well yn yr ail hanner. Daeth Liam McAlinden i'r cae yn lle Redmond a Dior Angus yn lle Harry Lennon a chwe munud cyn diwedd y gêm fe wnaeth y Dreigiau sgorio drwy dafliad hir gan Ben Tozer a Paul Mullin yn rhwydo gyda pheniad.
Cafodd chwe munud eu hychwanegu a bu bron i Aaron Hayden gipio'r tri phwynt i Wrecsam wrth daro'r bar funud heibio'r nawdeg.
Mae Chersterfield yn un o'r ceffylau blaen yn y gynghrair ac yr oedd ennill pwynt gartref ar ôl siom ddydd Sadwrn yn bwysig iawn i'r cochion ond maent yn aros yn y deuddegfed safle yn y tabl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2021