Chwe chwaraewr di-gap yng ngharfan merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Wales WomenFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae chwe chwaraewr di-gap wedi'u henwi yng ngharfan rygbi merched Cymru ar gyfer gemau'r hydref.

Fe fydd hyfforddwyr dros-dro Ioan Cunningham a Geraint Lewis yn arwain Cymru am eu gemau cyntaf wrth wynebu Japan ar 7 Tachwedd, De Affrica ar 13 Tachwedd a Chanada ar 21 Tachwedd.

Yn y blaenwyr mae'r wynebau newydd Kat Evans, Liliana Podpadec a Madi Jones yn ymuno â'r capten Siwan Lilicrap ar gyfer eu cyfleoedd cyntaf yn y tîm cenedlaethol.

Fe fydd cyfle i'r olwyr Jade Mullen, Leanne Burnell a Flo Williams hefyd i ennill eu capiau cyntaf.

Cafodd Cunningham a Lewis eu penodi fel hyfforddwyr dros ar ôl i Warren Abrahams adael y swydd yn dilyn ymgyrch siomedig yn y Chwe Gwlad ym mis Ebrill.

Y garfan yn llawn

Blaenwyr: Siwan Lillicrap (c), Alisha Butchers, Alex Callender, Bethan Dainton, Kat Evans, Cerys Hale, Cara Hope, Gwen Crabb, Abbie Fleming, Georgia Evans, Natalia John, Madi Johns, Manon Johnes, Molly Kelly, Bethan Lewis, Robyn Lock, Liliana Podpadec, Gwenllian Pyrs, Donna Rose, Caryl Thomas.

Olwyr: Keira Bevan, Leanne Burnell, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Jess Kavanagh, Courtney Keight, Kerin Lake, Caitlin Lewis, Ffion Lewis, Jade Mullen, Lisa Neumann, Elinor Snowsill, Niamh Terry, Flo Williams, Megan Webb, Robyn Wilkins.