Teyrnged i dad fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur

  • Cyhoeddwyd
Michael Peel and ImogenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Michael Peel ferch chwech oed, Imogen

Mae teulu tad o Lanrwst fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Michael Peel, 46, ar ôl i'w feic modur daro beic modur arall ar y A487 yng Nghorris, Gwynedd am tua 12:20 ar ddydd Sul.

Cafodd criwiau ambiwlans, gan gynnwys ambiwlans awyr, eu galw i'r digwyddiad ond bu farw Mr Peel yn y fan a'r lle.

Dywedodd ei deulu fod Mr Peel yn cael ei "garu fawr gan ei wraig Claire a'u merch Imogen".

Mewn datganiad, dywedodd y teulu eu bod yn "hynod ddiolchgar" i'r gwasanaethau brys ac aelodau'r cyhoedd wnaeth geisio helpu.

Roedd Mr Peel o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol, ond symudodd i fyw yn Llanrwst yn Sir Conwy.

Pynciau cysylltiedig