Lluoedd arfog i helpu gwasanaeth ambiwlans Cymru eto

  • Cyhoeddwyd
Milwyr yn cynorthwyo'r gwasanaeth ambiwlansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y trydydd tro i'r lluoedd arfog helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ers dechrau'r pandemig

Bydd aelodau'r lluoedd arfog yn helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am gyfnod trwy yrru cerbydau mewn achosion nad yw'n rhai brys.

Fe ofynnodd rheolwyr ambiwlans am gymorth milwrol fis diwethaf wrth i'r pwysau gynyddu yn sgil Covid.

Y gobaith yw y bydd y gefnogaeth - rhwng 14 Hydref a diwedd Tachwedd - yn lleihau'r pwysau hynny fel bod y gwasanaeth yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.

Dywedodd prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens ei fod "yn falch a diolchgar" i fod yn cydweithio gyda'r lluoedd arfog am y trydydd tro ers dechrau'r pandemig.

Bydd 110 o swyddogion o'r Fyddin, y Llynges a'r Awyrlu ar waith ar draws Cymru yn y cyfnod dan sylw, yn dilyn cais MACA (Military Aid to the Civil Authorities).

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cymorth yn gwneud hi'n bosib i griwiau ambiwlans ganolbwyntio ar achosion brys

Bydd y swyddogion hyn yn gweithio fel gyrwyr mewn achosion nad sy'n rhai brys ac yn ymateb i alwadau sy'n is o ran blaenoriaeth.

Fe fydd hynny'n sicrhau bod staff ac adnoddau'n rhydd er mwyn ymateb i alwadau brys ble mae perygl i fywydau.

Dywedodd Mr Killens: "Rydym yn falch a diolchgar i fod yn gweithio gyda'r lluoedd arfog unwaith yn rhagor, a wnaeth gwaith rhagorol wrth ein cynorthwyo ar ddau achlysur blaenorol y llynedd.

"Mae'r pandemig wedi creu her fel na welwyd o'r blaen, ond mae'r cwpl o fisoedd diwethaf yn arbennig wedi creu pwysau sylweddol a chyson ar ein gwasanaeth ambiwlans, gan gynnwys lefelau uchel o ran galw a mwy o weithgaredd yn gysylltiedig â Covid-19."

Ychwanegodd: "Y gaeaf yw ein cyfnod mwyaf prysur, a bydd cael cymorth cydweithwyr milwrol unwaith yn rhagor yn cryfhau ein capasiti ac yn ein rhoi yn y sefyllfa orau bosib i ddarparu gwasanaeth diogel i bobl Cymru."

Pynciau cysylltiedig