Ymchwiliad wedi i gerbyd heddlu daro plentyn 2 oed
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i wrthdrawiad rhwng cerbyd heddlu a phlentyn dyflwydd oed yn Sir Wrecsam.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 15:30 brynhawn Gwener ar Ffordd Llannerch ym mhentref Pen-y-Cae.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi cludo'r plentyn, oedd yn cerdded adeg y gwrthdrawiad, i Ysbyty Maelor yn Wrecsam.
Does dim manylion pellach ynghylch cyflwr y plentyn.
Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru apelio ar bobl i osgoi'r ardal tra bod swyddogion yn ymchwilio i'r achos ac mae yna apêl am wybodaeth gan unrhyw dystion.
'Ymwybodol trwy'r adeg'
Dywedodd trigolion sy'n byw gerllaw mai bachgen gafodd ei daro, a'u bod wedi clywed sgrechian tu allan i'w cartrefi yn dilyn y digwyddiad.
Roedd Hiram Evans, 55, yn un o'r rheiny fu'n disgwyl am yr ambiwlans gyda'r bachgen a'i fam.
"Roedd yn ymwybodol trwy'r adeg," meddai. "Roedd yr ambiwlans yma yn syth."