Arestio gyrrwr wedi i fownsar gael ei anafu'n ddifrifol

  • Cyhoeddwyd
Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o ffyrdd ynghau yn yr ardal ddydd Sadwrn wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad

Mae gyrrwr wedi cael ei arestio ar ôl i fownsar gael ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ar Abbott Street am tua 04:00 fore Sadwrn.

Dywedodd y llu mai'r gred yw fod y bownsar wedi ceisio sgwrsio gyda gyrrwr Mercedes llwyd am ei fod yn credu iddo fod yn feddw, pan wnaeth y car yrru i ffwrdd ac anafu'r dyn.

Ychwanegodd yr heddlu fod y car yna wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda thacsi, a bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân helpu i ryddhau'r dyn o'i gar.

Dywedodd llefarydd fod gyrrwr y Mercedes wedi cael prawf anadl oedd yn uwch na'r terfyn cyfreithlon, a'i fod wedi cael ei gymryd i'r ddalfa i gael ei holi.

Pynciau cysylltiedig