Pryder am golli'r grefft o blygu perthi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Gyda phrinder o bobl ifanc yn ymddiddori yn y maes, mae pryder y gallai'r grefft o blygu perthi ddiflannu o'r tir.
Er mwyn ceisio rhoi hwb i'r traddodiad hynafol hwn yng Nghymru, fe gynhaliwyd cystadleuaeth Plygu Perthi Dyffryn Tywi am y tro cyntaf y penwythnos hwn.
Yno'n cynorthwyo gyda'r trefniadau roedd Osian Owen, sy'n brentis plygu perthi gyda phrosiect Dyffryn Tywi; Hanes Tirwedd Ein Bro.
"Ma' prentis arall hefyd, ond sai'n gwybod am lot o bobl ifanc sy'n 'neud e," meddai.
"Mae'r rhan fwyaf yn bobol hŷn, ac mae'n bwysig fod mwy o bobl ifanc yn cael eu dysgu.
"Mae crefft iddo fe. Mae'n bwysig i fywyd gwyllt."
Gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn gwobrwyo ffermwyr yn ariannol am warchod yr amgylchedd, dyw rhai ddim yn credu fod y pwyslais yn y man cywir ar hyn o bryd.
Dywedodd Gwyn Williams, sy'n blygwr perthi profiadol: "Beth sy'n fy mhoeni i, ma' grants ar gael am bopeth, ond s'dim grants ar gyfer cadw cefn gwlad i fynd o ran cadw crefft i fynd.
"Dyle fod 'na, achos mae'n bwysig.
"Gallech chi gael dyn mewn 'da digger a thorri'r berth yn y bôn - wel so hynna'n grefft i fi o gwbl. Ond maen nhw'n rhoi grants i bethe fel 'na.
"Cymrwch torri off y berth a ffenso bob ochr - ma' grant am 'neud hynny - dyle fod grant ar gyfer y bobl sy' yma heddi - y rhai sy'n plygu perthi."
I newydd-ddyfodiaid, fel Christian Densley, roedd y digwyddiad yn Nyffryn Tywi yn gyfle gwych i ddysgu gan y meistri.
"Fi dim ond jest wedi dechrau," meddai.
"Ma' 'da fi gwmni garddio a gwasanaeth coed, felly fi ishe dechrau gwneud hyn a rhoi perthi ar dir fy hunan, 'nôl i steil Sir Gaerfyrddin.
"O'dd tad-cu arfer gwneud hyn lawr yn y Gwŷr, felly dwi ishe gwneud tipyn bach nawr hefyd."
Dyma'r tro cyntaf i gystadleuaeth Plygu Perth Dyffryn Tywi gael ei chynnal, ac fe drefnwyd taith dractorau yn rhan o'r achlysur.
Roedd un o drefnwyr y daith honno, Ashley Davies, yn llawn edmygedd o'r plygwyr perthi.
"Ma' ishe brains a ma' ishe dwylo da i 'neud hyn, a ma' ishe bod yn nice and calm," meddai.
"Union fel y bois hyn nawr, chware teg iddyn nhw."
Dyma'r gystadleuaeth gyntaf, ond nid yr olaf, medd y trefnydd Malcolm Edwards.
"Ry'n ni'n bwriadu ymweld â gwahanol ffermydd o hyn ymlaen," meddai.
"Gyda chyn lleied o dan 21 oed yn ymddiddori, mae pryder y gallai'r grefft, ac arddulliau fel Sir Gâr neu Sir Benfro ddiflannu o'r tir.
"Felly ma' angen i ni hybu'r grefft o blygu perth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021