'Angen atebion' am benderfyniadau'r pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae gwraig perchennog cartref gofal a laddodd ei hun yn ystod ton gyntaf Covid yn galw am ymchwiliad cyhoeddus ar wahân i Gymru.
Roedd Louise a Vernon Hough yn rhedeg cartref gofal Gwastad Hall yng Nghefn-y-Bedd, Wrecsam, ar y pryd ac mae hi eisiau gwybod pam benderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â phrofi pobl mewn cartrefi gofal yma, tra bod Lloegr wedi gwneud hynny.
Yn ôl Llywodraeth Cymru doedd dim tystiolaeth glinigol i brofi bod gwerth gwneud hynny ar y pryd, er iddyn nhw newid eu meddwl yn ddiweddarach ar sail cyngor gwyddonol.
Mae'r llywodraeth hefyd yn dadlau mai ymchwiliad Prydeinig i'r ymateb i'r pandemig ydy'r "opsiwn gorau".
Ond mae Mrs Hough yn dweud eu bod yn teimlo wedi'u "gadael ar ôl" gan Lywodraeth Cymru heb unrhyw offer PPE, profion nac ocsigen i'r cleifion.
Fe saethodd ei gŵr, Vernon, ei hun y tu allan i bencadlys yr heddlu yn Llai ar 21 Mai 2020.
'Dim cadarnhad beth oedd yn bod efo'r cleifion'
Meddai Mrs Hough: "Y profion oedd y peth pwysica'. Roeddan ni angen profion er mwyn gwybod be' oeddan ni'n delio ag o, a sut i ddelio ag o, achos 'doedd ganddon ni ddim cadarnhad o'r hyn oedd yn bod efo'r cleifion.
"Hyd yn oed pan o'n i'n gofyn am brofion ar ôl i'r cleifion fu farw, dim ond fel cadarnhad, 'doedd hynny ddim yn bolisi yng Nghymru.
"Roedd o'n rhwystredig iawn bod ni'n methu lleddfu dioddefaint y cleifion o gwbl.
"Pan ofynnais i un meddyg fyddai modd cael ocsigen ar y safle, doedd y meddyg ddim yn gwybod sut fyddai hynny'n bosib. ac mi roddodd bresgripsiwn am feddyginiaeth diwedd oes."
Ddiwedd mis Ebrill 2020 fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal Lloegr yn cael eu profi, hyd yn oed os nad oedd ganddyn nhw symptomau.
Ond nid dyna fel oedd hi yng Nghymru, gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud nad oedd unrhyw dystiolaeth glinigol i brofi gwerth gwneud hynny.
Roedd y penderfyniad wedi llorio Mrs Hough a'i gŵr, meddai.
"Roeddan ni'n gwylio fo ar y teledu, adre' ar y newyddion, ac roedd y ddau ohonan ni'n syfrdan. Roeddan ni'n meddwl... lle 'da ni'n mynd o fa'ma? Roeddan ni'n cerdded drwy fwd.
"Doedd 'na ddim help o 'nunlle ac alla' i ddim disgrifio pa mor ofnadwy oedd o i'r ddau ohonan ni. Wrth gwrs, nes i ddim sylweddoli faint oedd o'n effeithio ar Vern."
Ni ddaeth profion i bawb mewn cartrefi gofal yng Nghymru i rym tan ganol Mai'r llynedd, pan ddywedodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Vaughan Gething, bod 'na newid wedi bod yn y dystiolaeth a'r cyngor gwyddonol.
Roedd 12 o gleifion cartref Gwastad Hall wedi marw ym misoedd cyntaf y pandemig, ond yn ôl Mrs Hough dydyn nhw'n dal ddim yn gwybod faint yn union oedd wedi dal Covid yno oherwydd y diffyg profion.
Roedd gweld yr holl ddioddefaint wedi cael effaith ofnadwy ar ei gŵr, meddai, a'r ffaith nad oedd cyflenwadau ocsigen ar gael iddyn nhw yn gwneud pethau'n waeth.
"Roedd o wrth ei fodd efo'r cleifion," meddai. "Roedd eu gwylio nhw'n diodde' fel wnaethon nhw... petai nhw wedi cael eu profi, fasa nhw wedi gallu cael eu trin o leia'.
"Fe ddylien ni fod wedi cael ocsigen yma i'w helpu. Pwy benderfynodd nad oeddan ni'n cael rhoi'r cysur yna iddyn nhw?"
Fis Mai eleni cyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, y byddai 'na ymchwiliad cyhoeddus Prydeinig i edrych ar yr ymateb i'r pandemig.
Ond mae Mrs Hough yn un o grŵp o ymgyrchwyr sy'n galw rŵan am ymchwiliad penodol i Gymru.
Ychwanegodd: "Mae iechyd wedi'i ddatganoli. Cafodd y penderfyniadau eu gwneud gan Mark Drakeford, felly mae angen iddo fo ateb y cwestiynau.
"Mae'r grŵp i gyd yn teimlo bod yn rhaid cael ymchwiliad yn benodol i Gymru, nid un ar gyfer y DU i gyd. Mae'n rhaid i rywun fod yn atebol ynglŷn â phwy oedd yn gwneud y penderfyniadau yma."
Ond yn ôl Mr Drakeford, ymchwiliad eang ar gyfer Prydain gyfan ydy'r "opsiwn gorau".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn "cynnig cyfle i edrych ar natur penderfyniadau cysylltiedig ar draws y pedair gwlad".
Ychwanegodd bod Mr Drakeford wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at Lywodraeth y DU ynglŷn â "nifer o'r materion penodol y dylai'r ymchwiliad ganolbwyntio arnyn nhw o ran gweithredoedd Llywodraeth Cymru".
'Rhaid dysgu gwersi'
Mae Mary Wimbury, prif weithredwr Fforwm Gofal Cymru, yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu gwersi o'r hyn ddigwyddodd.
"Dwi'n siŵr y byddai pawb yn Llywodraeth Cymru ac ar draws y sector eisiau gwneud pethau'n wahanol," meddai.
"Ar ddechrau'r pandemig roedd problemau mawr ac mae 'na gartrefi gofal ar draws Cymru wedi teimlo wedi'u gadael lawr gan y llywodraeth.
"Rhaid i ni ddysgu gwersi am y sefyllfa. 'Da ni'n hapus i weithio gydag ymchwiliad Cymreig neu Brydeinig i sicrhau bod hanes y sector gofal cymdeithasol wedi'i glywed."
Mae Louise Hough wedi gwerthu cartref Gwastad Hall erbyn hyn ac wedi ymddeol - rhywbeth yr oedd hi a'i gŵr wedi edrych ymlaen ato, ond roedd y pandemig wedi newid popeth.
Meddai: "Mi fasa fo wedi bod wrth ei fodd wedi ymddeol.
"Roeddan ni wedi gweithio yn y cartre' gofal ers dros 33 mlynedd ac roedd ganddon ni lawer o gynlluniau i'r dyfodol. Ond 'doedd hynny ddim i fod yn anffodus.
"'Da ni angen atebion. Nid dim ond i fy mherthnasau i, ond i berthnasau eraill. Mae angen iddyn nhw fod yn atebol am y penderfyniadau wnaethon nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd20 Awst 2021
- Cyhoeddwyd12 Mai 2021
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021