Cynnydd sylweddol mewn trais gan blant at eu rhieni

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
trais plant

"Ro'n i'n ofni y byddai fy mab yn ein lladd ni'n ein cwsg..."

Yn ystod cyfnod clo y llynedd fe newidiodd ymddygiad mab 13 oed Lisa (nid ei henw iawn) i fod mor dreisgar nes ei bod hi'n ofni am ei bywyd.

Ac yn ôl rhai gwasanaethau cefnogi mae 'na gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr achosion o blant sy'n ymosod ar eu rhieni, gyda rhai mor ifanc â phump oed.

Roedd rhai achosion mor ddifrifol fel bod rhieni angen triniaeth ysbyty.

"O'n i'n meddwl am yr holl gyllyll yn y tŷ... mae'n mynd i'n lladd ni'n ein cwsg," meddai Lisa.

Ar ei waetha roedd ymddygiad James (nid ei enw iawn) mor frawychus, hyd nes ei bod hi'n mynnu bod ei frawd dyflwydd oed yn cysgu gyda hi er ei ddiogelwch.

Disgrifiad o’r llun,

Newidiodd ymddygiad James adeg y cyfnod clo cyntaf

Adeg y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth y newidiodd ymddygiad James, o fod yn fab a brawd mawr cariadus, i fod yn ymosodol meddai Lisa.

"Roedd e'n aros yn ei wely drwy'r amser," meddai Lisa. "Gofynnais iddo am help i wneud bwyd, ac am ddim rheswm fe aeth mewn i'r stafell fyw a gafael yn y ci a'i daflu. Fe wichiodd y ci mewn poen.

"Ar y pwynt yna fe wnes i feddwl, os yw James yn gallu gwneud hynna i'r ci, fe all wneud yr un peth i un ohonom ni... i fi neu'r babi."

Fe ddaeth yr awgrym cyntaf am newid ymddygiad James pan wnaeth Lisa ddarganfod ei fod yn cael ei fwlio'n ddiddiwedd yn yr ysgol.

Roedd hi'n torri ei chalon ac am ei helpu, ond wrth i'w ymddygiad fynd o ddrwg i waeth yn y cartre', fe drodd at ddefnyddio trais a'i dychryn er mwyn ei rheoli.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai Lisa'n cloi ei hun mewn ystafell ac yn ffonio 999, ond cafodd glywed nad oedd yn achos ddigon difrifol i ddenu ymateb

Fel gymaint o rieni sy'n cael eu cam-drin gan eu plant, roedd Lisa hefyd yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda theimladau o euogrwydd a chywilydd.

"Ro'n i'n dal yn ei garu," meddai, "ac am ei helpu ond doeddwn ni ddim yn ei adnabod mwyach.

"O'n i'n teimlo mod i wedi gwneud rhywbeth yn anghywir. Roedd pethe'n mynd o ddrwg i waeth ac ro'n i'n teimlo mod i'n cael fy meirniadu am fod â phlentyn oedd mor gas, mor ymosodol."

Dywedodd Lisa y byddai'n cloi ei hunan yn ystafell James a galw 999. Ond dro ar ôl tro roedd hi'n cael gwybod nad oedd y sefyllfa'n ddigon difrifol i ymateb.

"Yn y diwedd fe wnes i ymbil ar y gwasanaethau cymdeithasol i fynd â fy mab i ffwrdd. Fe ddywedes i wrthyn nhw - 'pa mor ddrwg y mae'n rhaid i bethau fod?' Oes rhaid i fi farw cyn i chi sylweddoli beth sy'n digwydd i fi a fy nheulu?"

Ar ôl ceisio'n ofer i gael cefnogaeth gan gynghorwyr, aelodau seneddol, elusennau a'r heddlu, fe gafodd Lisa gynnig cymorth gan wasanaeth arbenigol ar gyfer plant sy'n dreisgar tuag ar eu rhieni sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae diffyg cymorth ar gael yng Nghymru," medd Nick Corrigan

Mae gwasanaethau cymorth i deuluoedd Parallel Lives yn cael cefnogaeth ariannol gan y Swyddfa Gartref, ac yn arbenigo yn y maes.

Yn ôl cyfarwyddwr Media Academy Cymru Nick Corrigan, sy'n gyfrifol am Parallel Lives, mae'r cyrsiau yma'n gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw.

"Yn ystod y cyfnod clo, dy ni ddim yn gwybod pam ond ry'n ni wedi gweld 35% o gynnydd mewn achosion," meddai.

"Ry'n ni'n dyfalu bod teuluoedd yn cael eu cloi gyda'i gilydd wedi cyfrannu. Mae plant pump oedi wedi cael eu cyfeirio atom ni."

Taflu teledu at riant

Ac mae Mr Corrigan yn rhybuddio heb ymyrraeth bod y canlyniadau'n gallu bod yn arswydus ac mae'n rhybuddio bod 'na ddiffyg cymorth ar gael yng Nghymru.

"Does yna ddim digon o wasanaethau o ystyried faint o droseddau sy'n digwydd," meddai.

"Ry'n ni'n gwybod bod y cyfnod clo, a dod mas o'r cyfnod clo wedi arwain at fwy o drais.

"Mae ganddo ni achosion lle mae plant wedi taflu teledu ar riant, eraill lle maen nhw wedi ymosod ar rieni gyda chyllyll neu forthwyl."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Mair Edwards ei bod wedi dod ar draws rhieni sy'n "sgrechian am help"

Mae'r Seicolegydd Clinigol, Dr Mair Edwards, o'r farn bod y cyfnod clo wedi gwneud y sefyllfa'n fwy anodd i rai teuluoedd.

"Dwi'n meddwl bod y cyfnod, oherwydd bod pobl wedi bod ynghlwm yn ei gilydd ac yn methu mynd â'u plant i lefydd, wedi golygu bod yr anawsterau oedd yna yn barod wedi amlygu eu hunain yn waeth.

"Ond yn fwy na hynny wrth gwrs, doedd yna ddim llawer o bosibilrwydd cael cefnogaeth ac yn sicr ddim yn bosib cael pobl i fynd mewn i weithio gyda theuluoedd ar yr adeg hynny ac felly dros gyfnod o amser dwi'n meddwl bodd rhai teuluoedd wedi ei chael hi'n hynod, hynod o anodd.

"A phan oedden nhw'n gofyn am help doedd yr help hwnnw ddim ar gael iddyn nhw.

"Ar hyn o bryd dydy gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc fel arfer ddim yn fodlon rhoi help penodol ar gyfer problemau ymddygiad oni bai bod hefyd problemau iechyd meddwl.

"Ac mae hynny'n golygu bod rhai rhieni dwi'n eu nabod neu'n dod ar eu traws nhw sy'n sgrechian am help, ond sydd ddim yn gallu cael yr help sydd angen arnyn nhw ar yr adeg cywir."

Heb gymorth mae Lisa'n credu y byddai ei mab wedi bod mewn gofal neu wedi cael ei garcharu erbyn hyn am droseddau yn erbyn ei deulu.

"Mae pethau wedi gwella'n aruthrol. Mae James wedi dysgu empathi i lefel ddyfnach," meddai.

"Nawr mae e am helpu ei hunan eto. Fe allai hwn ddigwydd i unrhyw un."