GIG yng Nghymru'n wynebu 'hydref a gaeaf anodd iawn'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn wynebu "hydref a gaeaf anodd iawn" os ydy'r cynnydd presennol mewn achosion Covid yn parhau, medd un meddyg blaenllaw.
Dywedodd yr Athro Kelechi Nnoaham bod rhaid gwneud "popeth posib" er mwyn ceisio "rhwystro'r tuedd yma".
Mae'r Athro Nnoaham yn gyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n gyfrifol am boblogaeth o 451,000 ar draws Pen-y-bont, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Roedd 67 o gleifion Covid yn ei ysbytai ddydd Mercher - y nifer uchaf ers canol mis Chwefror.
"Os mae'r duedd yma yn parhau, mae am fod yn hydref a gaeaf anodd iawn i'r GIG," meddai.
"Rydym yn cydnabod bod nifer y cleifion sydd yn yr ysbyty heb fynd yn hynod o uchel, ond mae'n dal yn cynyddu a rhaid i ni wneud popeth posib i rwystro'r tuedd yma."
Cyhoeddodd y bwrdd iechyd ddydd Iau bod tair ward yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant wedi gorfod cau i ymwelwyr yn sgil y cynnydd mewn achosion.
Dywedodd yr Athro Nnoaham bod arolwg o gleifion diweddar wedi dangos bod rhan fwyaf yn 60 neu'n hŷn, ond bod hefyd cyfradd uwch o gleifion iau o gymharu â thonnau cynt o achosion.
"Pan rydych chi'n edrych ar y nifer o bobl ifanc yn y garfan yma o gymharu â'r don gyntaf a'r ail don, mae lot yn uwch tro yma," meddai.
"Os ydych chi'n edrych ar yr oedrannau gyda'r cyfraddau uwch o heintiad yng Ngwm Taf Morgannwg ar hyn o bryd, mae'n bobl rhwng 10 ac 19, lle mae'r cyfraddau wythnosol nawr dros 800 am bob 100,000 o bobl."
Ysgolion angen rheoli'r risg
Dywedodd yr Athro Nnoaham bod rhaid i ysgolion "rheoli'r risg" cyn ailagor i ddisgyblion, ar adeg lle mae cyfraddau Covid yn uchel ymysg plant ysgol.
"Mae Covid dal yma, mae'n lledaenu'n gyflym ymysg pobl 10 i 19 oed - gyda nifer o'r rhain yn dychwelyd i'r ysgol wythnos yma," meddai.
Ychwanegodd y dylai ysgolion ddiweddaru eu hasesiadau risg a "nodi lle mae'r risgiau mwyaf o drawsyriant Covid i ddisgyblion sy'n dychwelyd i'r ysgol".
Dylai pobl ifanc barhau i wneud profion lateral flow oherwydd dyw un o bob tri chlaf Covid yn profi dim symptomau.
"Ar gyfer ysgolion, mae yna nifer o fesurau yn seiliedig ar eich asesiad risg," meddai'r Athro Nnoaham.
"I rai, mae hyn yn golygu parhau i ddefnyddio mygydau, i eraill mae'n golygu sicrhau bod ymbellhau cymdeithasol yn parhau i ddigwydd mewn mannau prysur.
"Mae yna nifer fawr o wahanol gamau y dylai ysgolion eu cymryd, yn dibynnu ar eu hasesiad risg," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2021
- Cyhoeddwyd12 Medi 2021
- Cyhoeddwyd31 Awst 2021