Teyrnged i ferch chwe mis oed fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Eva Maria NichiforFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teulu merch chwe mis oed fu farw mewn gwrthdrawiad wedi ei disgrifio fel "babi bach perffaith" fydd yn "parhau yn eu calonnau am byth".

Bu farw Eva Maria Nichifor mewn gwrthdrawiad ar groesffordd Heol Goffa, Llanelli nos Wener.

Mewn datganiad, dywedodd ei rhieni bod y golled wedi eu "llorio", a bod Eva yn "wyrth, yn berffaith, ac yn rhodd gan Dduw".

Aeth teyrnged y teulu yn ei flaen i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth mewn amser mor ofnadwy.

Mae Lucy Dyer o Lanelli yn wynebu cyhuddiadau o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus a gyrru dan ddylanwad alcohol yn dilyn y digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig