Jack Sargeant wedi ei wawdio ar y we am hunanladdiad

  • Cyhoeddwyd
Jack Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jack Sargeant mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael â chamdriniaeth ar gyfryngau cymdeithasol

Mae'r Aelod Senedd Llafur dros Alun a Glannau Dyfrdwy, Jack Sargeant yn dweud ei fod wedi derbyn sylwadau dilornus ar y we lle mae pobl wedi cyfeirio at hunanladdiad.

Wrth siarad â phodlediad BBC Walescast, fe ddywedodd Mr Sargeant, "yn drist iawn, mae camdriniaeth ar gyfryngau cymdeithasol yn rhywbeth cyffredin iawn".

Mae'n dweud bod angen i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol wneud mwy i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

Ym mis Tachwedd 2017, fe laddodd tad Mr Sargeant, Carl Sargeant ei hun, ar ôl cael ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru gan y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones.

'Ddim yn haeddu cael fy nghamdrin fel yna'

Yn y podlediad, mae Jack Sargeant yn dweud, "Meddyliwch amdano, fyddech chi'n dweud hynna wrth unrhyw un arall?

"Efallai ei fod yn waeth gan fy mod i yn wleidydd - mae'n iawn i bobl graffu arna i, ond dwi ddim yn haeddu cael fy ngham-drin fel yna.

Disgrifiad o’r llun,

Fe laddodd Carl Sargeant, tad Jack Sargeant ei hun yn 2017

"Dwi'n meddwl bod angen i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol wneud mwy, oherwydd nid dim ond mewn gwleidyddiaeth mae'n digwydd, rydyn ni wedi gweld pêl-droedwyr fel Marcus Rashford ac eraill yn dioddef ar sawl platfform."

Pynciau cysylltiedig