Pryder bod pobl yn anwybyddu goleuadau rheilffordd Porthmadog
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder yn ardal Porthmadog fod gyrwyr yn anwybyddu arwyddion croesfannau trenau gan achosi perygl sylweddol.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru a phobl leol mae 'na yrwyr wedi bod yn gyrru drwy oleuadau coch sy'n rhybuddio fod trenau ar y ffordd.
Mae Network Rail yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o bobl yn ymddwyn yn beryglus ar groesfannau dros gyfnod y pandemig, gyda dros 400 o achosion wedi eu cofnodi.
Yn ôl un cynghorydd lleol mae'r ffaith fod rhai yn anwybyddu'r arwyddion yn "anghredadwy".
'Gwirion bost'
Does gan y groesfan rheilffordd ger y Cob ym Mhorthmadog ddim polion metel sy'n dod fyny a lawr wrth i drenau basio.
Yn hytrach mae 'na oleuadau coch yn fflachio wrth i drenau bach a threnau stêm basio dros gledrau'r lôn.
Ond wrth i draffig barhau yn brysur dros gyfnod yr haf mae 'na adroddiadau fod rhai wedi bod yn gyrru drwy oleuadau coch a hynny yn bryder enfawr.
"Fedrai'm credu'r peth," meddai'r cynghorydd lleol, Nia Jeffreys.
"Bod pobl yn anwybyddu goleuadau coch yn fflachio, mae'n wirion bost bod pobl ddim yn gwrando.
"Dwi'n erfyn ar bobl i gadw at y gyfraith, i barchu'r goleuadau coch ac i beidio mynd trwyddyn nhw.
"Mae'n andros o beryg, fydde nhw'm yn rhoi goleuadau coch yn fflachio oni bai bod wir angen!"
'Peryglus iawn'
Mae Network Rail, sy'n gyfrifol am gledrau a chroesfannau Cymru, hefyd wedi ategu'r alwad.
Yn ôl Heledd Walters, rheolwr prosiect gyda Network Rail, mae anwybyddu rheolau yn beryglus ac mae'n "anffodus" gweld bod cynnydd wedi bod mewn digwyddiadau peryglus ar groesfannau dros gyfnod y pandemig.
"Mae'r trenau yn trafeilio'n gyflym iawn ac maen nhw'n trafeilio yn dawel ac yn cymryd pellter hir iddyn nhw ddod i stop," meddai.
"Mae'n beryglus iawn ac yn anffodus 'da ni'n gweld cynnydd mewn achosion o tua 100 bob blwyddyn.
"Ry'n ni wedi bod yn gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain er mwyn cael y neges allan i ddefnyddio croesfannau yn gywir."
Yn ôl ystadegau'r sefydliad roedd 433 o ddigwyddiadau peryglus ar groesfannau Cymru dros gyfnod y pandemig.
Mewn datganiad fe ddywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw'n "ymwybodol o bryderon yn lleol o yrwyr yn gyrru drwy oleuadau coch".
Dywedodd llefarydd eu bod nhw am atgoffa pobl i "beidio â chymryd risg".
"Os ydych yn gyrru drwy olau coch fe allwch chi dderbyn dirwy a phyntiau ar eich trwydded gyrru," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2021