Ateb y Galw: Y cerddor Sam Petersen

  • Cyhoeddwyd
Sam PetersenFfynhonnell y llun, Sam Petersen

Y cerddor gwerin Sam Petersen sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Shelley Musker Turner yr wythnos diwethaf.

Mae Sam yn gerddor o Sir Benfro sy'n chwarae'r pibau a'r ffliwt.

Nawr wedi ei leoli yng Nghaerdydd gallwch ddod o hyd i Sam yn chwarae mewn sesiynau amrywiol o amgylch y brifddinas ac unrhyw le gwyntog â golygfeydd braf. Mae'n chwarae gyda'r band gwerin Avanc, prosiect sydd yn dod â cherddorion ifanc Cymru gyda'i gilydd i chware hen gerddoriaeth mewn ffordd newydd.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bwyta croissant a jam mewn gwesty yn Llydaw pan yn tua dwy neu dair mlwydd oed. Rydw i'n cofio'r bwyd a charedigrwydd y bobl leol yn glir. Wnes i dreulio'r haf yn Llydaw yn aml fel plentyn ac mae o wedi dylanwadu llawer ar fy ngherddoriaeth.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Bae'r Tri Chlogwyn. Roeddwn i'n ddigon lwcus fod teulu Dad yn berchen ar fwthyn bach wrth ymyl y traeth. Lle perffaith i dreulio penwythnos naill ai'n eistedd wrth y tân yn gwylio storm trwy'r ffenest neu allan yn nofio yn y môr tawel gan wylio'r llongau yn mynd tua Bryste.

Bae'r tri chlogwynFfynhonnell y llun, Sam Petersen
Disgrifiad o’r llun,

Bae'r Tri Chlogwyn

Dysgais i syrffio yn Sir Benfro ond mae Bae'r Tri Chlogwyn yn lle tawelach gyda chriw croesawgar yn y dŵr pob tro mae'r tonnau yn dod. Mae'n draeth lle mae angen i'r amodau fod yn berffaith i syrffio felly pryd wyt ti'n cael diwrnod da mae o'n brofiad anhygoel.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn 'neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Genedigaeth fy mrawd bach. Pan es i i'r ysbyty roedd fy rhieni wedi prynu transformer mawr i mi i geisio stopio unrhyw genfigen!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ddim byd gwaeth 'na mynd i'r ysgol yn eich gwisg ysgol ar ddiwrnod dillad eich hun.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Ymlaciol, swnllyd, gonest.

Sam PetersenFfynhonnell y llun, Sam Petersen
Disgrifiad o’r llun,

Ar ben mynydd yn Sir Benfro

line

O archif Ateb y Galw:

line

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Bu farw hen gi'r teulu yn ddiweddar.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cymryd drosodd sgwrs a ddim gwrando ar eraill digon.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pob noson yn chwarae yng ngŵyl ryng-geltaidd Lorient yn 2019. Y cynulleidfaoedd fwyaf egnïol a gŵyl llawn cerddorion gwych o wledydd Celtaidd.

Llwyfan LorientFfynhonnell y llun, Sam Petersen
Disgrifiad o’r llun,

Llwyfan Lorient

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Rydw i wedi cael llawer mwy o amser i wrando ar bodlediadau ers dechrau'r cyfnod clo. Fy ffefryn ar hyn o bryd yw Fire Draw Near gan Ian Lynch. Mae o'n trafod hanes caneuon werin a sut rydan nhw'n newid a theithio'r byd. Gwych i unrhyw nerd sy'n hoffi hanes a cherddoriaeth.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Anthony Bourdain. Bwyd da, digon o win a pherson diddorol.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Roeddwn i arfer gyrru'r tractor yn Sain Ffagan.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i'r lleuad.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun wedi'i baentio gan fy nhad cu, David Petersen, ges i'r llun wrtho ar fy mhen-blwydd yn 18. Mae o wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i mi ac mae'n neis cael darn o'i waith ar y wal yn y tŷ.

Sam PetersenFfynhonnell y llun, Sam Petersen
Disgrifiad o’r llun,

Llun David Petersen

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Bez o'r Happy Mondays, fase fo'n ddiddorol gweld be' sy'n mynd ymlaen yn ei ben...

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Cerys Hafana

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw