Heddlu'n adolygu diogelwch gwleidyddion wedi marwolaeth Amess
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi dweud ei fod yn "bryderus" am fynd i gyfarfod ei etholwyr ddydd Sadwrn yn dilyn marwolaeth Syr David Amess.
Bydd lluoedd heddlu yn adolygu camau diogelwch ar gyfer gwleidyddion yn San Steffan a Chaerdydd wedi i'r AS Ceidwadol gael ei drywanu i farwolaeth ddydd Gwener.
Dywedodd Chris Elmore, AS Llafur Ogwr, y byddai'n rhaid ystyried presenoldeb heddlu yn ei gyfarfodydd syrjeri nawr "am y tro cyntaf ers blynyddoedd".
Talodd deyrnged hefyd i Syr David, 69, gan ei ddisgrifio fel dyn "caredig a chwrtais".
'Chwarae ar fy meddwl'
Mae Heddlu'r Met bellach yn trin y farwolaeth fel digwyddiad terfysgol, ac mae dyn 25 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Dywedodd Mr Elmore fod ASau i gyd wedi cryfhau diogelwch yn eu swyddfeydd yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Jo Cox yn 2016.
Roedd hynny, meddai ar BBC Radio Wales Breakfast, yn cynnwys camerâu CCTV, cloeon ychwanegol yn ei swyddfa, a larymau panig iddo ef, ei deulu a'i staff.
Cyn ei syrjeri fore Sadwrn, dywedodd Mr Elmore ei fod wedi gofyn i'w hun "beth os mai'r nesaf yw fi, neu un o fy nghydweithwyr neu ffrindiau?".
Ychwanegodd fod marwolaeth Syr David yn "ymosodiad ar ddemocratiaeth" a'i fod wedi siarad gyda gwleidyddion eraill dros nos am y digwyddiad.
"Ydyn ni'n rhoi lan ac yn stopio ymgysylltu, neu ydyn ni'n parhau i geisio gwneud y gwaith y cawson ni ein hethol yn ddemocrataidd i'w wneud?" meddai.
Dywedodd gwleidydd arall - aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn Senedd Cymru, Jane Dodds - ei bod hi wedi gohirio ei syrjeris hi y penwythnos yma yn dilyn y digwyddiad.
Mae Cyngor y Penaethiaid Heddlu Cenedlaethol bellach wedi dweud y bydd lluoedd heddlu'n cysylltu gyda gwleidyddion eu hardal nhw i fynd drwy gamau diogelwch yn dilyn marwolaeth David Amess.
"Rydyn ni'n annog ASau i adrodd unrhyw bryderon diogelwch i'w llu heddlu lleol yn syth er mwyn cadw eu hunain, eu staff ac aelodau'r cyhoedd sy'n mynychu eu syrjeris yn saff," meddai'r datganiad.
"Mae arian ar gael drwy'r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol ar gyfer anghenion diogelwch ar sail asesiadau bygythiad sy'n cael eu gwneud gan yr heddlu."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd y bydd modd i Aelodau'r Senedd hefyd fynychu sesiwn gyda staff diogelwch i drafod unrhyw bryderon tebyg sydd ganddyn nhw.
"Rydym yn darparu cyngor a chanllawiau diogelwch i'n holl Aelodau ar ddechrau'r Senedd newydd yma, ac yn parhau i gynnal trafodaethau diogelwch cyson, gan gynnwys yn etholaethau'r Aelodau," meddai'r llefarydd.
'Ymosodiad ar ddemocratiaeth'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru dywedodd cyn-AS Ceidwadol Maldwyn, Glyn Davies ei bod hi'n bwysig o hyd fod gwleidyddion yn cyfarfod y cyhoedd er gwaethaf beth ddigwyddodd.
"Gobeithio na fydd hyn yn stopio pobl rhag cyfarfod etholwyr," meddai.
"Mae isio dal i gyfarfod etholwyr, parhau i fynd allan a chwrdd â phobl, mae'n rhan bwysig o'n democratiaeth.
"Ro'n i wedi teimlo bygythiad pan oeddwn i'n AS, ond 'dych chi'n disgwyl hynny cyn cael y gwaith.
"Mae'n dipyn o risg gwneud y gwaith, ond dwi ddim yn teimlo ei fod yn fwy rŵan."
Wrth roi teyrnged i Syr David Amess, dywedodd Mr Davies ei fod yn "ddyn cyfeillgar" oedd yn "chwerthin lot".
"Roedd teulu yn bwysig i David ac mae'n drist iawn i'w deulu," meddai.
"Mae hyn yn ymosodiad ar ddemocratiaeth, ac mae pawb sydd yn y byd yma yn sioc bod y fath beth wedi digwydd.
"Mae pawb yn dweud ei fod yn gweithio efo'i etholwyr a dyna sy'n bwysig. Roedd yn esiampl dda iawn o gadw mewn cysylltiad gyda'r rhai yr oedd o'n eu cynrychioli."
Ymddiheuriad cyn-Gomisiynydd Heddlu
Dywedodd AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams y byddai'n cofio Syr David Amess fel "person adeiladol, clên iawn".
"Roedd yn hen law pan nes i ymuno â'r tŷ dros ugain mlynedd yn ôl - bydden ni'n cael gair cyfeillgar bob hyn a hyn," meddai.
"Roedd y ddau ohonon ni'n cadeirio pwyllgorau a dod ar ei draws o ddydd i ddydd ,ac hefyd roedd yn aelod o grŵp dwi'n cadeirio ar Gatalwnia.
"Roedd o'n berson dymunol ac addfwyn iawn."
Ychwanegodd y byddai ASau yn gorfod "meddwl yn ofalus" cyn cynnal cyfarfodydd syrjeri y tu allan i swyddfeydd penodedig o hyn ymlaen.
"Dwi 'di bod yn mynd bob yn ail ddydd Gwener allan ar y strydoedd, curo drysau ac ati i siarad efo pobl," meddai. "Ond falle bydd angen ailfeddwl."
Yn y cyfamser mae cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi ymddiheuro yn dilyn neges a gyhoeddodd ar Twitter yn dilyn y farwolaeth.
Roedd Arfon Jones wedi cyhoeddi neges yn dweud: "Yn anffodus dyma beth sy'n digwydd pan mae gennych chi lywodraeth sy'n rhannu a rheoli, ac yn annog ofn, atgasedd a gwahaniaethu. Bydd rhywun, rhywle yn ymateb yn ymosodol."
Ar ôl cael ei feirniadu gan nifer, gan gynnwys yr AS Ceiwadol Fay Jones, fe ymddiheurodd Arfon Jones.
Dywedodd fod ei neges gynharach yn "ansensitif" a'i fod wedi ceisio mynegi pa mor "wenwynig ydy ein sgwrs wleidyddol" ar hyn o bryd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021