Canfod rhagor o olion adeiladau hynafol ar Ynys Llanddwyn
- Cyhoeddwyd
Mae archeolegwyr wedi canfod olion sawl adeilad hynafol arall wrth gloddio ger eglwys Santes Dwynwen yn Llanddwyn, Ynys Môn.
Cafodd rhan o'r safle ei chloddio ddegawd yn ôl, ac mae arbenigwyr nawr wedi dychwelyd a darganfod mwy o adeiladau gan gynnwys priordy posib o'r Canol Oesoedd.
Y gred yw bod yr adfeilion hynaf yn dangos olion o'r cyfnod cyn concwest y Saeson, pan adeiladodd Edward I gestyll mewn trefi cyfagos fel Caernarfon a Biwmares.
Ond mae chwedl Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, yn dyddio yn ôl ymhell cyn hynny i'r 5ed Ganrif OC.
Dylanwad Celtaidd yn para
Cafodd y gwaith cloddio diweddaraf ei wneud gan yr archeolegydd Dr George Nash ac SLR Consulting, yn dilyn caniatâd gan Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Môn.
Dywedodd Dr Nash fod y priordy mwy na thebyg wedi cael ei droi yn eglwys blwyf yn dilyn ymgyrch Harri VIII yn erbyn y mynachdai yn y 1530au.
"Mae'r olion cynharaf mwy na thebyg yn dod o'r 14eg Ganrif, ond maen nhw'n llawer tebycach i'r pensaernïaeth eglwysig Cymreig na'r hyn ddaeth yn ddiweddarach gyda'r Saeson."
Ychwanegodd fod yr olion ar Ynys Llanddwyn yn "gyson" gyda safleoedd tebyg yng Nghymru, ble mae'r dylanwad Celtaidd yn parhau hyd yn oed ar ôl concwest y Saeson ar ddiwedd y 13eg Ganrif.
"Doedd dim mantais milwrol nac ariannol i Edward I wthio ymhellach i mewn i Ynys Môn, ac felly roedd cymunedau ar y cyrion fel Llanddwyn yn cael rhyddid i barhau gyda'u bywydau," meddai.
"Mae hyn yn darparu tystiolaeth archeolegol i ni sydd ar y cyfan wedi'i golli ar y tir mawr."
Bellach dim ond adfeilion sydd i'w gweld ar yr ynys o eglwys Santes Dwynwen, sy'n dyddio i'r 15eg neu 16eg Ganrif - yn ogystal â dwy groes Geltaidd.
Y gred yw bod llawer o'r cerrig wedi cael eu hailddefnyddio wrth adeiladu goleudai'r ynys, neu'r cytiau cerrig ar gyfer pysgotwyr.
Roedd yr ychydig o deuluoedd oedd yn byw ar yr ynys hefyd yn ffermio darn o dir yno, ond fe adawodd y trigolion olaf ar ddechrau'r 20fed Ganrif i fyw ar y tir mawr.
Cafodd y prif oleudy ar Ynys Llanddwyn ei adeiladu yn 1824, a'i ychwanegu ato yn 1846, ond nid yw wedi bod yn cael ei ddefnyddio bellach ers yr 1970au.
Ond mae'r ynys ei hun dal yn boblogaidd gyda cherddwyr a naturiaethwyr, ac mae modd cerdded ar draws ato pan mae'r llanw'n isel.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021