Cloddio 'campwaith pensaernïaeth' Oes Haearn yn Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Am yr eildro yn unig yn ei hanes, mae archeolegwyr wedi bod yn archwilio safle caer o'r Oes Haearn yn Aberystwyth.
Yr heneb amlycaf ar fryn Pen Dinas yw'r golofn 60 troedfedd a adeiladwyd yn y 1850au fel cofeb i Ddug Wellington.
Ond mae gan yr archeolegwyr fwy o ddiddordeb mewn heneb sy'n llawer iawn hŷn.
Yn ei anterth dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl roedd bryngaer Pen Dinas yn "gampwaith o bensaernïaeth a pheirianneg yr Oes Haearn".
Hon yw'r fryngaer fwyaf o'r Oes Haearn yng Ngheredigion - mae'n dyddio o tua 400 mlynedd cyn Crist.
Roedd y fryngaer enfawr yn amgylchynu ardal o 3.5 hectar, tua'r un maint â thri a hanner cae rygbi.
'Ased i Aberystwyth gyfan'
Bu Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn gweithio ar y safle am y tair wythnos diwethaf ar ôl derbyn cyllid gan Cadw, y corff sy'n gyfrifol am ofalu am lefydd hanesyddol yng Nghymru.
"Mae'n heneb mor enfawr - ac roedd y gwaith a aeth mewn i'w greu i gyd wedi'i wneud gan bobl gydag offer llaw, doedd dim JCBs na chloddwyr mecanyddol yma", meddai Fran Murphy o'r ymddiriedolaeth, sydd wedi arwain y gwaith cloddio.
"Mae'n ased ar gyfer Aberystwyth gyfan. Rwy'n credu tasen ni'n gallu gwella'r mynediad a gwella'r arwyddion er mwyn gwneud pobl yn ymwybodol pa mor hygyrch y gall fod, a denu pobl yma i edrych o'u cwmpas a gweld sut mae'n rhan o'r hanes sy'n gwneud Aberystwyth a'r ardal gyfagos beth ydyn nhw heddiw."
Y darganfyddiadau pwysicaf yn ystod y cloddio diweddar yw glain ambr, a ddefnyddiwyd yn ôl pob tebyg fel darn o emwaith yn ôl yr archeolegwyr.
Hefyd olwyn garreg - troellwr gwerthyd mae'n debyg a ddefnyddiwyd wrth wehyddu.
Dywedodd Fran Murphy eu bod wedi eu darganfod mewn lleoliad a oedd yn awgrymu eu bod wedi cwympo o dan lawr un o'r tai y tu mewn i waliau'r gaer.
"Rwy'n credu eu bod wedi mynd ar goll - fe'u canfuwyd ar blatfform cwt lle'r oedd rhywun yn byw ac y bydden nhw, yn ôl pob tebyg, wedi cwympo trwodd o dan y llawr.
"Mae'r ambr yn ddarganfyddiad eithaf prin a byddai'r person, pwy bynnag oedd yn berchen ar rhain, yn flin eu bod wedi mynd ar goll."
Dywedodd Ms Murphy ei bod yn anodd dyddio'r gwrthrychau, ond efallai y byddai hynny'n bosibl ymhen amser.
"Gobeithio erbyn diwedd y prosiect hwn y byddwn yn gallu cael dyddio radiocarbon, a ddylai roi llawer mwy inni ynglŷn â'r union ddyddiad, ond maen nhw'n sicr dros 2,000 oed."
Beth oedd pwrpas safle Pen Dinas?
Yn ôl y Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru roedd y fryngaer "wedi dechrau bywyd fel safle amddiffynedig syml ar gopa'r gogledd" o fryn Pen Dinas.
Dywed y cofnod y byddai wedi ei "amgáu gan ragfur o rwbel wedi'i bacio a ffos allanol. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach ar ôl i'r cyntaf gael ei adael, efallai tua 400-300cc, adeiladwyd caer newydd ar y copa uwch i'r de, gyda gatiau cywrain a rhagfur sylweddol o waliau cerrig gyda ffos allanol."
Datblygwyd y safle dros amser ac adeiladwyd rhagfuriau ychwanegol yn cysylltu'r copaon i'r gogledd a'r de, ar draws darn o dir sy'n cael ei alw'n isthmws.
Yn ôl Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, byddai Pen Dinas "yn ei anterth [yn y degawdau diwethaf cyn Crist]… yn gampwaith o bensaernïaeth a pheirianneg yr Oes Haearn".
Dywed y cofnod y byddai gan y gaer "giât isthmws â waliau cerrig… mor uchel ag adeilad deulawr ac fe'i croeswyd gan bont bren wedi'i chynnal ar bedwar postyn pren enfawr".
Roedd Jack, tad-cu Margaret Burns, wedi helpu gyda'r cloddiad gwreiddiol ar y safle yn y 1930au. Roedd yn weithiwr lleol, un o lawer a aeth i helpu gyda'r gwaith gafodd ei arwain gan Darryl Forde.
Yr Athro Forde oedd â chadair Daearyddiaeth ac Anthropoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y pryd, ac arweiniodd gloddiad pum mlynedd o safle Pen Dinas.
Dywedodd Ms Burns, sy'n byw ar waelod bryn Pen Dinas: "Rwy'n tybio bod yr Athro Forde wedi hysbysebu am ddynion lleol i ddod i helpu gyda'r cloddio, fel llafurwyr i glirio'r pridd.
"Roedden nhw o hyd yn brin o arian yn y dyddiau hynny, roedd hi'n 1934, ac mae'n debyg y byddai unrhyw beth yn help.
"Rydw i i lawr ar waelod Pen Dinas ac roedd fy nhad-cu lan f'yna 87 mlynedd yn ôl, felly mae'n rhywbeth eitha' emosiynol i mi, a dweud y gwir."
Yn union fel y cafodd yr Athro Forde gymorth gwirfoddolwyr lleol yn ystod cloddfa'r 1930au, mae Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed hefyd wedi galw ar bobl leol i helpu yn 2021.
Yn ystod tair wythnos o gloddio fe helpodd tua 60 o wirfoddolwyr lleol, a'r mwyafrif yn dod o bentref cyfagos Penparcau.
Darganfyddiad 'cyffrous iawn'
Roedd un o'r gwirfoddolwyr, Simon Rodway, ar y safle pan gafwyd hyd i'r droellen oedd yn rhan o declyn gwehyddu.
"Roedd pawb yn gyffrous iawn - roedd e'n edrych yn wych, yn grwn ac yn berffaith rownd gyda thwll yn y canol. Roedd yn gyffrous iawn i fod yna a gweld hynny.
"Mae'n lle o bwysigrwydd yn y cyfnod mae'n amlwg. Mae digon o gaerau o'r cyfnod ond mae'r rhan fwyaf yn fach o gymharu â Phen Dinas felly mae'n amlwg bod rhywun o bwys wedi byw yna.
"Dwi ddim yn credu bod pobl yn meddwl digon am y lle nac yn gwneud digon ohono fe mewn gwirionedd.
"Licen i weld mwy o arwyddion fel bod twristiaid a phobl leol o ran hynny yn ymwybodol o'r hyn sydd yna ac yn gwerthfawrogi lle bendigedig."
Dywed Ms Murphy fod cynlluniau i archwilio safle Pen Dinas ymhellach y flwyddyn nesaf: "Yn bendant mae gobeithion ar gyfer cloddio yn y dyfodol.
"Mae Cadw yn hynod gefnogol ac rydym yn edrych am arian cyfatebol gan bartneriaid eraill i gynyddu faint o waith y gallwn ei wneud.
"Yn lleol, mae 'na ymdrech i godi proffil Pen Dinas fel ased i Aberystwyth gyfan, i godi ei broffil ac i sicrhau ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i gynnal ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2021
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021