Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Jamie Paterson a Joel PiroeFfynhonnell y llun, Getty Images

Rhoddodd Abertawe grasfa i Gaerdydd yn y gêm ddarbi gyntaf rhwng y ddau glwb i gael ei chwarae o flaen cefnogwyr ers cyn y pandemig.

Roedd yr ornest yn nodedig hefyd am fod y tro cyntaf i gefnogwyr y ddau dîm orfod dangos pasys Covid i fynychu'r ornest yn Stadiwm Swansea.com.

Ond ar y cae dim ond un tîm oedd yn dathlu, wrth i goliau Jamie Paterson, Joel Piroe a Jake Bidwell sicrhau buddugoliaeth hanesyddol i'r Elyrch.

I Gaerdydd, mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth gyda'r tîm yn 20fed yn y tabl - a'r pwysau'n cynyddu fwyfwy ar y rheolwr Mick McCarthy.

Er i'r ddau dîm ddechrau'n egnïol, fe gymerodd hi bron i hanner awr nes y gôl gyntaf wrth i ergyd Paterson o 25 llath ganfod cornel y rhwyd wedi i'r golwr Alex Smithies arbed ganddo ar yr ymgais gyntaf.

Rhoddodd hynny gyfle i Abertawe setlo a rheoli'r meddiant, gyda Chaerdydd yn dibynnu ar giciau gosod i geisio creu cyfleoedd i unioni'r sgôr.

Daeth ail i'r Elyrch wedi awr o chwarae, gyda Paterson yn canfod Piroe yn y cwrt cosbi a'r prif sgoriwr yn dyblu'r fantais wrth godi'r bêl dros Smithies.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Jamie Paterson un a chreu dwy ar brynhawn cyfforddus i'r Elyrch

Paterson greodd y drydedd hefyd, gyda rhediad a chroesiad yn canfod y cefnwr chwith Bidwell ar y postyn pellaf ar gyfer peniad syml i gefn y rhwyd.

Mae'r canlyniad terfynol yn codi Abertawe y 17fed yn y Bencampwriaeth, gyda Chaerdydd yn aros dri phwynt yn unig uwchben safleoedd y cwymp.

Ond yn bwysicach i'r Elyrch efallai - a thestun poen mawr i'r Adar Gleision - oedd mai dyma eu buddugoliaeth fwyaf dros eu gelynion pennaf ers 2014.

Mynnodd Mick McCarthy ar ôl y gêm ei fod yn disgwyl bod wrth y llyw ar gyfer y daith i Fulham ddydd Mercher oni bai ei fod yn clywed yn wahanol, wrth i Gaerdydd geisio torri rhediad o chwe cholled yn olynol.