Distawrwydd yn yr anialwch
- Cyhoeddwyd
Ces i'r fraint yn ddiweddar o arwain y gwasanaeth i ailagor capel y teulu yn y Groeswen ar ôl gaeaf hir y pandemig. Fe ddaeth rhiw 70 o bobol ynghyd ar gyfer yr achlysur ac ar y cyfan roedd y digwyddiad yn un llawen.
Serch hynny, roedd 'na dinc o dristwch hefyd gan fod ein gwasanaeth ailagor ni hefyd yn wasanaeth cau i'n chwaer eglwys yn Watford ar ochr arall basn Caerffili, achos oedd yn dyddio yn ôl i 1739.
Byw o dan gysgod Groeswen yr Annibynwyr a Thonyfelin y Bedyddwyr fu hanes Watford erioed. Doedd dim modd cystadlu yn erbyn Christmas Evans a Chaledfryn a'r cewri eraill oedd yn serennu yn y ddau gapel ffasiynol.
Serch hynny, fe gynhyrchodd Watford un cymeriad hynod ddiddorol sef David Williams, Pwll-y-Pant. Adwaenir hwnnw hyd heddiw fel "Tad Anffyddiaeth" a chafodd ddylanwad mawr ar Benjamin Franklin ac eraill o sylfaenwyr yr Unol Daleithiau.
Yn wir o gofio mai cilfach cefn o riw 300,000 o bobl oedd Cymru ar y pryd roedd ei dylanwad ar oes yr oleuedigaeth yn rhyfeddol o fawr. Roedd Williams ei hun, William Edwards (hefyd o Gaerffili) Richard Price, Howel Harris a hyd yn oed Iolo Morgannwg i gyd yn rhan o ferw deallusol yr oes.
Mae pethau'n wahanol iawn yn ein canrif ni.
Os siaradwch chi ac unrhyw un sy'n ymddiddori yn y cyfansoddiad Prydeinig fe gewch wybod bod y drafodaeth ddeallusol ynghylch ei ddyfodol bron i gyd yn digwydd yng Nghymru ac yng Nghymru'n unig.
Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi polareiddio o gwmpas cwestiynau du a gwyn a Lloegr druan yn hwylio megis y Titanic yn ddi-hid o'r peryglon cyfansoddiadol o'i chwmpas.
Peintio Iwnion Jacs ym mhobman neu rywbeth felly yw'r unig ateb syn cael ei gynnig!
Dyna, am wn i, yw pam bod Llywodraeth Cymru wedi penodi Rowan Williams yn gyd-gadeirydd y comisiwn cyfansoddiadol newydd.
Wedi cyfan yn ôl yr hen ddisgrifiad "the Tory party at prayer" yw'r eglwys Anglicanaidd ac os na wnaiff y Ceidwadwyr wrando ar gyn Archesgob Caergaint ar bwy y byddent yn fodlon gwrando!