Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-2 Middlesbrough

  • Cyhoeddwyd
BoroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Martin Payero yn selio'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr yn Stadiwm Dinas Caerdyd

Fe gollodd Caerdydd am yr wythfed gêm yn olynol gan ddod â chyfnod Mick McCarthy fel rheolwr i ben.

Yn dilyn y golled o 2-0 i Middlesbrough, mae'r Adar Gleision bellach ar eu rhediad gwaethaf erioed.

Maen nhw wedi colli eu chwe gêm gartref ddiwethaf - sydd hefyd yn record clwb newydd.

Yn fuan wedi'r gêm, daeth cadarnhad gan y clwb fod McCarthy wedi gadael ei rôl fel rheolwr.

Aeth Boro - o dan arweiniad cyn-reolwr Caerdydd, Neil Warnock - ar y blaen yn haeddiannol,

Sgoriodd Andraz Sporar o'r smotyn ar ôl i Mark McGuinness lawio yn ei gwrt ei hun.

Gwnaeth Martin Payero y canlyniad yn ddiogel gydag ergyd craff wedi 73 munud ar ôl i Aden Flint daro'r trawst i Gaerdydd.

Fe wnaeth yr Adar Gleision wella ar ôl hanner amser ond roedd eu cefnogwyr yn canu yn erbyn eu rheolwr eu hunain tua'r diwedd.