Marwolaeth Emiliano Sala: Dyn yn euog o beryglu awyren

  • Cyhoeddwyd
David HendersonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dyn a drefnodd y daith awyren roedd Emiliano Sala arni pan fu farw wedi ei ganfod yn euog o beryglu diogelwch awyren.

Bu farw'r pêl-droediwr Sala, 28, a'r peilot David Ibbotson, 53, pan blymiodd eu hawyren i'r môr ym mis Ionawr 2019.

Roedd David Henderson, 67, wedi cyfaddef trefnu'r daith ond roedd wedi gwadu peryglu diogelwch awyren.

Honnodd mai Mr Ibbotson oedd wedi "cymryd cyfrifoldeb dros bopeth yn ymwneud â'r daith".

Bydd Henderson yn cael ei ddedfrydu ar 12 Tachwedd.

Dywedodd cyfreithwyr ar ran teulu Sala eu bod yn croesawu'r euogfarnau, ond mai "un rhan o'r jig-so" oedd David Henderson wrth geisio deall pam blymiodd yr awyren.

Ffynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Sala ei ddarganfod, ond doedd dim modd dod o hyd i Mr Ibbotson, 59, o Crowley, Sir Lincoln

Yr Awdurdod Hedfan Sifil oedd wedi dwyn yr achos yn erbyn Henderson, sy'n byw yn Hotham, Sir Efrog.

Roedd yr awyren Piper Malibu yn cludo Sala - oedd wedi arwyddo i Gaerdydd - o Nantes yn Ffrainc i brifddinas Cymru.

Cafodd corff Sala ei ganfod ar wely'r môr y mis canlynol.

Nid yw corff Mr Ibbotson, o Crowle, Sir Lincoln, na gweddillion yr awyren wedi eu codi o'r môr.

Mae teulu Sala yn dal i ddymuno cael gwybod "gwybodaeth allweddol" am hanes cynnal a chadw yr awyren, yn ogystal â'r "holl ffactorau" wnaeth achosi i Sala fod yn agored i lefelau uchel o garbon monocsid cyn i'r awyren blymio, yn ôl eu cyfreithwyr.

Dywedodd Kate Staples, Cwnsler Cyffredinol yn yr Awdurdod Hedfan Sifil, eu bod yn meddwl am y "ffrindiau a theuluoedd gafodd eu heffeithio gan y ddamwain".

"Mae diogelwch tra'n hedfan yn ddibynnol ar onestrwydd pawb yn y diwydiant. Bydd yr Awdurdod Hedfan Sifil bob tro yn ceisio erlyn ymddygiad anghyfreithlon, fel gweithredoedd anniogel ac anghyfreithlon Mr Henderson."

Pynciau cysylltiedig