Dau wyneb newydd i ymuno â thîm cyflwyno Cyw ar S4C
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd dau wyneb newydd sbon - Griff Daniels a Cati Rhys - yn ymuno â thîm cyflwyno Cyw, gwasanaeth y sianel i blant meithrin.
Daw Cati Rhys, 22, yn wreiddiol o Gaernarfon ac mae Griff Daniels, 21, yn dod o Bontypridd.
Bydd y ddau yn ymuno ag Elin Haf a Huw Owen i gyflwyno'r gwasanaeth i blant.
'Edrych ymlaen at ymateb rhieni!'
Aeth Griff i Brifysgol Lerpwl i astudio Daearyddiaeth ac yn ystod ei gyfnod yno bu'n gweithio ar orsaf radio'r brifysgol.
"Sgwennu sgriptiau, cynhyrchu ac ati ar gyfer y rhaglen radio, sydd wedi'n arwain i fod â diddordeb mewn cyflwyno," meddai.
"Dwi'n aelod o fand Wigwam, ac rydym ni wedi bod yn perfformio mewn gwyliau fel y Steddfod ac ati, yn ogystal ag mewn sawl ysgol gynradd.
"Felly pan weles i swydd Cyw yn cael ei hysbysebu, nes i feddwl byddai'n gyfle gwych i gyfuno dau beth dwi wedi mwynhau gwneud, sef cyflwyno a chymryd rhan mewn sioeau byw.
"Dwi'n edrych ymlaen at wneud sioeau byw a chael gweld ymateb y plant, a gallu gweld effaith be rydych chi'n ei gynhyrchu - ddim jest ar y plant ond y rhieni hefyd."
'Helo i blant Cymru'
Mae Cati bellach yn byw yng Nghaerdydd ac astudiodd gwrs Perfformio Coleg y Drindod yn y brifddinas.
"Dwi wastad wedi gweld fy hun fel person creadigol, o ran y ffordd dwi'n meddwl. Ro'n i'n mwynhau cyflwyno ryw raglen ddychmygol wrth fynd ar daith hir yn y car pan o'n i'n fach!," meddai.
"Ges i'r fraint o fod yn rhan o Gwmni Theatr Maldwyn pan ro'n i'n hŷn, a mi na'th hynna sbarduno diddordeb mewn canu, actio a dawnsio.
"Mae o'n deimlad o 'fan yma dwi fod' rywsut. Dwi'n edrych 'mlaen at yr elfen sgriptio, ymchwilio yn ogystal â gwneud y gwaith o flaen y camera. Yn fwy na dim, dwi'n edrych ymlaen at ddweud helo wrth blant Cymru!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd9 Awst 2017