Mam Logan Mwangi yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio

  • Cyhoeddwyd
Logan Mwangi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Logan ei ddisgrifio fel bachgen "caredig, doniol, a chlyfar" wedi'i farwolaeth

Mae mam i fachgen pump oed wedi ymddangos yn llys y goron wedi ei chyhuddo o'i ladd.

Fe gafodd Angharad Williamson, 30, o Sarn ger Pen-y-bont, ei chyhuddo o lofruddio Logan Mwangi, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Logan Williamson.

Cafodd corff Logan ei ganfod yn Afon Ogwr ar 31 Gorffennaf eleni.

Ddydd Llun fe ymddangosodd Angharad Williamson yn y llys drwy gyswllt fideo, gan siarad i gadarnhau ei henw, cyn cael ei chadw yn y ddalfa.

Ms Williamson yw'r trydydd person i gael eu cyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Logan.

Mae llystad Logan - John Cole, 39, o Sarn - wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, ac mae bachgen 14 oed na ellir ei enwi hefyd wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Mae'r tri hefyd wedi cael eu cyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.