Ymgyrchwyr yn atal gwaith ar Ganolfan Ganser Felindre

  • Cyhoeddwyd
protest

Mae ymgyrchydd wedi clymu ei hun i giât er mwyn atal mynediad i'r man lle fydd canolfan ganser newydd yn cael ei hadeiladu yng Nghaerdydd.

Bu grŵp o tua 20 o ymgyrchwyr - sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau i adeiladu Canolfan Ganser Felindre - yn ceisio atal mynediad i'r safle yn Yr Eglwys Newydd.

Mae'r mwyafrif wedi gwasgaru, ond fe gafodd dwy ddynes eu harestio gan Heddlu'r De ar amheuaeth o dresmasu difrifol.

Dywedodd un ymgyrchwraig - oedd a chlo beic o gwmpas ei gwddf - ei bod hi wedi bod yno ers ben bore Mawrth.

Fe wnaeth Cyngor Caerdydd roi caniatâd cynllunio i'r adeilad yn 2017, a'r disgwyl yw y bydd y ganolfan newydd yn agor ei drysau yn 2025.

Y gobaith yw y bydd yn darparu triniaeth arbenigol ac adnoddau ar gyfer dysgu, ymchwil a datblygu.

Ond mae'r cynlluniau wedi ennyn cryn wrthwynebiad gyda rhai protestwyr yn anfodlon bod y gwaith adeiladu yn digwydd ar ddarn o dir glas agored.

'Addewidion gwag'

Yn ôl Pip, un o'r ymgyrchwyr y tu allan i'r safle, maen nhw'n gobeithio atal y gwaith am gyn hired ac sy'n bosib heddiw.

"Dwi'n protestio gan ein bod ni yng nghanol argyfwng hinsawdd, a dwi wedi cael digon o wleidyddion yn gwneud addewidion gwag, ac yn methu'n llwyr a gweithredu."

Wedi iddyn nhw arestio dwy ddynes, dywedodd Heddlu'r De mewn datganiad eu bod yn cydnabod yr hawl i brotestio democrataidd tra'n lleihau tramgwyddo'r cyhoedd.

"Cafodd menyw 36 oed o Laneirwg a menyw 69 oed o'r Mynydd Bychan eu harestio ar amheuaeth o dresmasu difrifol.

"Roedd y brotest yn heddychlon ar y cyfan, ac fe wnaeth y protestwyr wasgaru heb ddigwyddiad pellach."

'Pryderon dwfn'

Dywedodd Sian, un arall o'r ymgyrchwyr bod ganddyn nhw bryderon dwfn am effaith amgylcheddol y prosiect.

"Ry'n ni yng nghanol argyfwng natur a hinsawdd, ac ry'n ni ar fin colli un o ardaloedd gwyrdd, gwyllt olaf Caerdydd," meddai.

"Mae 'na wrthwynebiadau i'r ceisiadau cynllunio yn dal yn sefyll - dy'n ni ddim wedi cael atebion i'r rheini.

"Mae cymaint o gwestiynau'n dal yn agored ynglŷn â'r cynllun, ac mae e wir yn bwysig bo' ni'n datrys hyn cyn bwrw 'mlaen gyda'r cynllun."

Dywedodd Cyfarwyddwr Prosiect Canolfan Ganser Felindre bod y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd "yn canolbwyntio ar glirio rhywfaint o lystyfiant er mwyn gallu cwblhau'r gwaith o fapio'r safle dros yr wythnosau nesa."

"Dim ond coed sydd eisoes wedi disgyn oherwydd y gwynt fydd yn cael eu clirio o'r safle - yn unol â'r hyn gafodd ei gytuno ar y cyd a Chyngor Caerdydd," meddai.

Mae Felindre wedi dweud yn y gorffennol eu bod wedi eu hymrwymo i ddarparu gwasanaethau canser o'r safon uchaf i bobl De Ddwyrain Cymru.