Aur Du

  • Cyhoeddwyd

Os ewch chi i hela achau unrhyw un sydd a'i wreiddiau yn neheudir Cymru fe ddewch i o hyd i löwr o fewn byr o dro. Yn fy nheulu fy hun, does ond angen mynd yn ôl i'n nhad-cu i ganfod glöwr, er un wnaeth ffoi at y weinidogaeth cyn gynted a bo modd!

Ar ei anterth, roedd y diwydiant glo yn y de yn cyflogi bron i chwarter miliwn o bobol, y mwyafrif llethol, ond nid y cyfan ohonynt, yn ddynion.

Does dim syndod felly bod gwaddol y diwydiant a'i sgil effeithiau yn dylanwadu ar ein cymdeithas a'n cymunedau hyd heddiw. Does' na ddim gwaddol mwy gweladwy na'r tipiau sbwriel sy'n dal i anharddu'r cymoedd.

Mae'r ffrae bresennol ynghylch y tipiau rhwng llywodraethau Bae Caerdydd a Llundain yn ei hanfod yn un ddigon syml ei deall.

Mae'r tomenni gwastraff yn fater sydd wedi ei ddatganoli yn ôl Whitehall. Cymru ddylai dalu am eu clirio felly. Does neb, hyd y gwn i, yn gwadu fod y ddadl yna yn gyfreithiol gywir.

Dadl foesol yn hytrach nac un gyfreithiol sydd gan Lywodraeth Cymru. Roedd y tomenni yn bodoli cyn sefydlu'r gyfundrefn ddatganoledig yw craidd y ddadl honno. O dan oruchwyliaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig y cafodd y tipiau eu creu, hi felly ddylai dalu am eu clirio.

Ond mae 'na ddadl arall, ddadl wleidyddol y tro hwn, y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hystyried cyn penderfynu p'un ai i estyn pres o'i phoced ai peidio.

Os oeddwn yn gorfod enwi dau ddigwyddiad wnaeth danseilio dilysrwydd y wladwriaeth Brydeinig yng ngolwg nifer sylweddol o bobol Cymru yn y ganrif ddiwethaf, fe fyddai'r dewis yn un digon hawdd. Tryweryn oedd un ac Aberfan a'r ymateb i'r trychineb hwnnw oedd y llall.

Fe ddysgwyd gwers Tryweryn yn Llundain. Mae dŵr Cymru yn dal i lifo i Loegr o Lyn Celyn, Cwm Elan a sawl chronfa arall ond does dim cronfeydd newydd wedi eu creu yn yr hanner canrif ddiwethaf ac mae hi bron yn amhosib dychmygu sefyllfa lle y byddai cynllun felly yn mynd rhagddo.

Ond beth am wersi Aberfan? Mae'r ffordd y gwnaeth Llywodraeth y DU gymryd arian o'r gronfa drychineb i dalu am glirio'r tomenni yn dân ar groen rhai o drigolion y maes glo hyd heddiw. Do, fe gafodd yr arian ei ad-dalu degawdau'n ddiweddarach ond mae'r hyfdra gwreiddiol yn fyw yn y cof hyd heddiw.

Os ydy Llywodraeth y DU o ddifri' am ddiogelu'r undeb mae angen iddi sylweddoli bod gwastraff glo, fel dŵr, yn bwnc hynod o sensitif yng Nghymru ac os am 'lefelu lan' y cam cyntaf yw 'lefelu lawr' y tipiau glo.

Arian poced yw'r symiau arfaethedig yn nhermau gwariant y DU ond os am fuddsoddi yn nyfodol yr Undeb, brysied!

Pynciau cysylltiedig