Rhybudd cwmni lorïau i brynu'n gynnar cyn y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
cwmni lori

Ers misoedd bellach, ry'n ni'n ymwybodol bod 'na brinder enbyd am yrwyr loriau drwy'r Deyrnas Unedig.

Mae'r RHA (Road Haulage Association), y gymdeithas sy'n cynrychioli cwmnïau cludiant, wedi cyhoeddi bod yna ddiffyg o 100,000 o yrwyr.

A hithau'n Wythnos Genedlaethol y Lorïau, mae'r gymdeithas yn cynnal cystadlaethau ac yn ceisio denu pobl ifanc i'r diwydiant.

Ond yn ôl Ian Owen, rheolwr gyfarwyddwr cwmni cludiant Owens yn Llanelli, mae'n broblem hirdymor gatastroffig sydd heb gael ei datrys er gwaethaf ymdrechion diweddar Llywodraeth San Steffan.

'50, 60 o lorïau yn segur'

"Yr hyn maen nhw'n ceisio gwneud yw rhoi plaster dros rywbeth sydd angen pwyth," meddai.

Mae'r cwmni'n cyflogi bron 1,000 o weithwyr - 650 o'r rheini yn yrwyr - ond a hithau'n gyfnod prysur iawn, mae 'na waith ar gyfer tua 150 o yrwyr arall.

Ond yn sgil y prinder cenedlaethol, dy'n nhw ddim ar gael.

"Yn hytrach na chynyddu nifer y lorïau, ni'n gorfod cyfyngu," meddai Mr Owen.

"Mae tua 50 neu 60 o lorïau yn segur. A pham bod lori newydd sbon yn costio £100,000? Mae hynny'n rhoi rhy fath o syniad i chi o'r broblem yn ariannol."

Disgrifiad o’r llun,

"Yr hyn maen nhw'n ceisio gwneud yw rhoi plaster dros rywbeth sydd angen pwyth," meddai Ian Owen

Mae'r prinder wedi'i achosi gan ystod o ffactorau sydd wedi arwain at greu un storom berffaith.

  • Brexit - Yr amcangyfrif yw bod hyd at 20,000 o yrwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi gadael y DU;

  • Covid-19 - cafodd rhyw 30,000 o brofion gyrru mo'u cynnal oherwydd y pandemig;

  • Mae'r telerau i dreth IR35 ym mis Ebrill wedi effeithio'n negyddol ar weithwyr hunangyflogedig;

  • 56 yw cyfartaledd oedran y gweithlu. Mae'n ddiwydiant felly sy'n dibynnu ar weithwyr sy'n heneiddio ac yn ymddeol.

Yn ôl Mr Owen, dyma'r her fwyaf erioed iddyn nhw ei wynebu yn hanes y cwmni, sydd y flwyddyn nesaf, yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu.

"Roedd rhaid wynebu her Covid heb unrhyw amser mewn gwirionedd i baratoi," meddai. "Dwi'n credu i ni yrru'n ffordd drwy hynny gydag elfen o lwyddiant.

"Ac yna gethon ni'n taro gan ergyd y prinder gyrwyr. Ac mae hwn o bell ffordd yn waeth na heriau'r pandemig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan gwmni Owens waith ar gyfer tua 150 o yrwyr ychwanegol

Yr hyn sy'n poeni'r cwmni nawr yw'r cyfnod prysur sydd ar y gorwel, a'r cyngor yw i bobl brynu'n gynnar rhag iddynt gael eu siomi adeg y Nadolig.

"Mae angen i chi archebu'n gynnar eleni. Mae 'na obaith y byddwch chi'n derbyn popeth, heb os. Ond mae'n bosib i chi gael siom," meddai Mr Owen.

"Fel sector, rydym yn teimlo balchder wrth gynnig gwasanaeth, a dy'n ni ddim moyn gweld unrhyw un yn drist adeg y Nadolig."

Beth mae Llywodraeth y DU yn ei wneud?

  • Trefnu fisas dros dro ar gyfer gweithwyr tramor;

  • Defnyddio arholwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn cynyddu nifer y profion ar gyfer gyrwyr newydd;

  • Cynlluniau hyfforddi dwys am ddim ar gyfer 5,000 o yrwyr;

  • Cysylltu â bron i filiwn o yrwyr sydd â thrwydded yn eu hannog i ddychwelyd i'r diwydiant;

  • Cynnig £7,000 y pen er mwyn ariannu cynllun prentisiaeth ar gyfer gyrwyr;

  • Cynlluniau i lacio ar y rheolau fyddai'n caniatáu i yrwyr o dramor weithio rhagor yn y DU cyn gadael y wlad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia Griffith - Aelod Seneddol Llanelli - yn dweud fod angen gwneud mwy i warchod y cwmni

Yn ôl Aelod Seneddol Llanelli Nia Griffiths, mae angen gwneud mwy er mwyn gwarchod un o gwmnïau pwysica'r ardal.

"Beth ni'n gweld nawr ydy llywodraeth sy'n datgan ymatebion hanner parod," meddai.

"Fel rhoi fisas er enghraifft i bobl am dri neu bedwar mis. Wel pwy sy'n mynd i ddod yma am hynny? Neb! Bron neb.

"A nawr maen nhw am roi hawliau i gwmnïau tramor i ddod yma i wneud mwy o waith a ni gyd yn cytuno nad oes pwynt mynd 'nôl i'r cyfandir gyda lori wag, ond y ffaith yw, os ydy cwmnïau tramor yn cael hawliau, dylai ein cwmnïau ni gael yr un hawliau ar y cyfandir a dylai'r llywodraeth wneud mwy o waith i gael bargen dda i ni."

Manteisio ar gynllun prentisiaeth

Cynllunio ar gyfer y dyfodol yw bwriad cwmni Owens erbyn hyn, ac yn hynny o beth, maen nhw'n manteisio ar gynllun prentisiaeth y llywodraeth.

Ers ychydig wythnosau, mae 'na naw gyrrwr ifanc dan hyfforddiant wedi ymuno â'r cwmni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r broses hyfforddi yn llawn straen, medd Gareth Perry (dde)

Yn eu plith, Gareth Perry o Gwm Rhymni: "Mae'n bosib iawn mwynhau gyrfa lwyddiannus iawn fel gyrrwr. Ond dim yr arian yn unig sy'n bwysig.

"Yn rhan o'r cynllun prentisiaeth gydag Owens, rydych chi'n rhan o'r teulu, ac mae'r gefnogaeth yna yn bwysig gan fod yr hyfforddiant a chael trwyddedau yn stressful iawn."

Mae'r gost o gael trwydded yn agos at £4,000 ac mae'n broses sy'n cymryd amser. Hyd yn oed ar ôl pasio pob prawf, mae angen ennill profiad yng nghwmni gyrwyr eraill cyn bod modd i chi fwrw'r ffordd mewn lori enfawr ar ben eich hun.

Dyma gynllun ar gyfer y dyfodol felly, ond yn y tymor byr, mae cwmni Owens yn wynebu cyfnod heriol iawn.

Poeni am brysurdeb y Nadolig mae Ian Owen, tra'n edrych ar bob opsiwn posib er mwyn denu gyrwyr trwy'r drws a sicrhau bod nwyddau yn cyrraedd y lle iawn ar yr adeg iawn dros y misoedd nesaf.

"Ni'n neud popeth ni'n gallu. Ond mae peth o hyn mas o'n dwylo. Ond nid problem Owens yw hon. Mae'n broblem drwy'r wlad sy'n cael effaith ar bawb sy'n gweithio gyda lorïau."