Cerflun dadleuol HM Stanley i aros yn Ninbych yn dilyn pleidlais
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor wedi penderfynu cadw cerflun dadleuol o'r anturiaethwr HM Stanley yn nhref Dinbych yn dilyn pleidlais gyhoeddus.
Roedd bron i 600 o bobl leol wedi pleidleisio, gyda 471 o blaid cadw'r cerflun efydd, a 121 yn erbyn.
Roedd ymgyrchwyr yn erbyn yn dadlau bod cael cerflun o'r Cymro yn anaddas - oherwydd ei gysylltiad gyda brenin Gwlad Belg, Leopold II a chamdriniaeth ddifrifol o bobl Y Congo yn y 19eg Ganrif.
I eraill roedd yn bwysig cydnabod ei gamp yn profi ble'r oedd tarddiad Afon Nîl a'r Afon Congo, a'i gysylltiad gyda'r enwog Dr Livingstone.
Yn sgil y bleidlais, penderfynodd Cyngor Tref Dinbych y byddai'r cerflun yn aros yn ei le ar sgwâr y dref.
Dywedodd cynghorwyr y byddai trafodaeth yn y dyfodol dros yr angen am wybodaeth ychwanegol ger y safle.
Penderfynodd y cyngor osod y cerflun yno yn 2010, ond roedd rhai yn gwrthwynebu bryd hynny hefyd.
Cafodd Stanley ei eni yn Ninbych yn 1841, ond John Rowlands oedd ei enw bedydd. Newidiodd ei enw i Henry Morton Stanley ar ôl ymfudo i'r Unol Daleithiau yn 1859.
Roedd nifer o bobl yn galw am gael gwared â'r cerflun, yn ogystal ag obelisg er cof amdano yn Llanelwy, fel rhan o'r ymgyrch Black Lives Matter a gododd yn sgil llofruddiaeth George Floyd yn ninas Minneapolis.
Roedd Archesgob Llanelwy, Gregory Cameron, yn cefnogi cael gwared arno, gan ddweud nad oedd gan Stanley fawr o barch at bobl frodorol Affrica.
Yn dilyn cyhoeddi canlyniad y bleidlais dywedodd y cynghorydd sir, Gwyneth Kensler ei bod yn "falch iawn" o'r penderfyniad.
"A dwi'n falch iawn ei bod hi wedi bod yn bleidlais mor bendant efo 79.6% isio cadw'r cerflun lle mae o, ac felly mae hwnna'n dangos sut mae pobl Dinbych yn teimlo," meddai wrth BBC Cymru.
Pan ofynnwyd beth oedd ei hymateb i'r bobl oedd yn honni bod Stanley yn hiliol, dywedodd: "Fel dwi wedi bod yn gwneud dros y blynyddoedd [dwi wedi] trio dangos nad oedd o," meddai.
"Dwi yn cytuno, mae angen lot mwy o wybodaeth am Stanley a'i gyfnod, hwyrach yn y llyfrgell neu yn yr amgueddfa.
"Mae angen dehongli ei fywyd, ond mae 'na gymaint o bethau annifyr wedi cael eu dweud amdano fo yn anffodus."
'Hiliol adeg hynny a hiliol rŵan'
Dywedodd Emyr Thomas, un o'r rhai bleidleisiodd dros symud y cerflun: "Mae pobl Dinbych wedi cael eu dweud, a dwi wedi cael fy nweud hefyd - mae'r bleidlais wedi mynd o blaid cadw'r cerflun lle mae o.
"I fi ddylse fo gael ei symud i fewn i'r llyfrgell neu'r amgueddfa er mwyn rhoi i gyd o'r ffeithiau gyda'r cerflun, felly mae'r hanes yna i bawb wneud eu meddyliau i fyny."
Ac roedd o hefyd yn bendant iawn ei farn am gymeriad Henry Morton Stanley.
"Roedd o wedi lladd pobl du, saethu nhw, ac roedd o'n hiliol adeg hynny ac mae o'n hiliol rŵan," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2021