Gwrthdrawiad Port Talbot: Teyrnged i ddyn 'llawn hwyl'

  • Cyhoeddwyd
Christopher HowellsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Christopher Howells yn dilyn y digwyddiad ar y B4287 nos Sadwrn

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn 22 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Castell-nedd nos Sadwrn.

Bu farw Christopher Howells yn dilyn y digwyddiad rhwng dau gar ar y B4287 yn Efail-fach, Pontrhydyfen am tua 19:30.

Cafodd gyrrwr y car Mazda MX5 gwyrdd oedd yn cario Mr Howells ei gludo i'r ysbyty ag anafiadau difrifol, tra bod tri pherson yn y car arall - Ford Fiesta coch - hefyd wedi mynd i'r ysbyty gydag anafiadau.

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad, ac wedi apelio am wybodaeth neu luniau dashcam o'r ceir cyn y digwyddiad.

'Cyfeillgar a thwymgalon'

Wrth dalu teyrnged i Christopher Howells, dywedodd ei rieni nad oedd unrhyw un o'i deulu, ffrindiau a chydweithwyr "yn gallu credu ei fod wedi mynd mor sydyn".

"Roedd e'n unigryw, yn hoffi mynd mas ac yn llawn hwyl," meddai'r teulu mewn datganiad.

"Bydd colled fawr ar ei ôl ac mae wedi gadael twll mawr yng nghalonnau pawb."

Ychwanegodd Callum, un o ffrindiau Chris, ei fod yn teimlo ei fod wedi colli "brawd".

"Roedd e wastad yn berson mor gyfeillgar a thwymgalon i fod o gwmpas," meddai.

"Roedden ni'n treulio bron bob dydd gyda'n gilydd a byddai'n caru pob eiliad 'naethon ni rannu gyda'n gilydd."

Pynciau cysylltiedig