COP26: Pa mor obeithiol ydy pobl ifanc Cymru?
- Cyhoeddwyd
Wrth i gynhadledd hinsawdd COP26 ddechrau'r wythnos hon, Gohebydd Ifanc BBC Cymru Nel Richards sydd yn holi pa mor obeithiol ydy pobl ifanc Cymru am lwyddiant y digwyddiad.
Mae Nel yn 20 oed ac o Sir Abertawe, ond bellach yn astudio Newyddiaduraeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ar ddechrau COP26 yn Glasgow, mae trafodaethau, cynlluniau a gobeithion wedi'u gosod ar gyfer arweinwyr byd.
Yn ôl Prif Weinidog Cymru, mae'n rhaid i'r uwch-gynhadledd gynnig "gobaith i bobl ar gyfer y dyfodol", ac ar bwy sydd angen gobaith yn fwy na'r bobl ifanc fydd yn profi'r dyfodol hwnnw?
Mewn arolwg o 10,000 o bobl 16 i 25 oed gafodd ei gyhoeddi eleni, dywedodd bron i 60% o bobl eu bod yn teimlo'n bryderus iawn am newid hinsawdd, a thri chwarter eu bod yn teimlo bod y dyfodol yn frawychus.
Mae COP26 wedi'i ddisgrifio fel digwyddiad tyngedfennol i ddyfodol y blaned.
Yn bersonol, dwi'n obeithiol y bydd rhywbeth positif yn dod ohoni - ond a oes gan bobl ifanc eraill obaith y bydd COP26 yn arwain at y newid sydd ei angen i ddiogelu'n dyfodol?
'Trafod ond dim gweithredu'
"Fy mhrif bryder am COP26 yw bod 'na lot fawr o drafod am fod, ond dim llawer o weithredu," meddai Dafydd Orritt.
Yn ôl Dafydd, sy'n 21 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, nid yw'r patrwm yma yn addawol.
"'Dan ni 'di clywed dro ar ôl tro am yr holl newidiadau sy' angen eu gwneud, ond heb weld neb mewn pŵer yn gweithredu," meddai.
Cafodd nifer drafferth yn cyrraedd y gynhadledd ddydd Llun wrth i dywydd garw achosi problemau gyda threnau i'r ddinas. Ym marn Dafydd, mae hyn "yn dweud y cyfan".
"Dwi ddim yn ffyddiog iawn fydd y gynhadledd yn un werthfawr."
'Haeddu datrysiad byd-eang'
Ond mae gan Gwenno Robinson, 19, obaith y bydd gwledydd wedi dysgu o'r pandemig a sylweddoli mai "cydweithredu ac undod rhyngwladol" sydd ei angen.
"Wedi'r cyfan, mae sialensiau byd-eang yn haeddu datrysiad byd-eang," meddai'r fyfyrwraig o Abertawe.
Yn ddelfrydol, dywedodd Gwenno yr hoffai hi weld gwledydd yn gadael COP26 gyda chynlluniau "pendant, diamwys a realistig" yn hytrach na thargedau rhy uchelgeisiol nad oes modd eu cyrraedd.
"Wedi'r cyfnodau clo, rydyn ni wedi profi fod newid yn bosib. Nawr, mae'n bryd i'r gwleidyddion weithredu'r newid hwnnw."
Sut fyddai llwyddiant yn edrych?
I Tegwen Bruce Deans ac Iwan Kellet, fe fyddai cynhadledd lwyddiannus yn sicrhau nad yw newid hinsawdd yn diflannu o sylw gwleidyddion wedi i strydoedd Glasgow glirio.
"Yn anffodus, caiff materion amgylcheddol eu hwfftio'n aml gan y bobl oedrannus sydd wrth y llyw yn y gwledydd yma, am nad yw sgil-effeithiau dinistrio ein hinsawdd ar gyfer y dyfodol mor arwyddocaol iddyn nhw ag y mae i ni bobl ifanc," meddai Tegwen, 21.
Er hyn, mae'r fyfyrwraig o Landrindod yn gobeithio y bydd COP26 yn gyfle i arweinwyr byd roi ystyriaeth lawn i'w gweledigaeth hirdymor ar gyfer yr hinsawdd.
Fel Gwenno, mae hi'n gobeithio y byddwn yn gadael y gynhadledd gyda phenderfyniadau fydd yn creu sail ar gyfer y dyfodol.
"Os na fydd y drafodaeth yn parhau yn gadarnhaol yn dilyn y gynhadledd, yn fy marn i fe fydd hi'n aflwyddiannus," yn ôl Iwan Kellet, 19 oed o Amlwch.
"Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd. Mae angen i wyddoniaeth fod yn rhan o ddeddfwriaeth yn barhaol, nid ond am bythefnos."
Fel nifer o bobl, rydw i'n gobeithio clywed cwestiynau anodd yn cael eu gofyn, ac y cawn ni atebion clir fydd yn arwain at weithredu.
Ond ar y cyfan, mae pobl ifanc yn araf i fynegi gobaith am lwyddiant COP26 - ac am ba reswm?
Ydyn ni wedi cael ein siomi gan lywodraethau, busnesau a deddfwriaethau'r gorffennol? Neu oes angen i bobl ifanc, fel ni, wneud mwy ar lawr gwlad i sicrhau'r newid angenrheidiol er mwyn achub ein byd?
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021