Y Prif Weinidog Rhodri Morgan, tywysogion y Dwyrain Canol a fi

  • Cyhoeddwyd
Alun Jones, Llysgennad Prydain Derek Plumbly a Rhodri MorganFfynhonnell y llun, Alun Jones
Disgrifiad o’r llun,

(chwith i'r dde) Alun Jones, Llysgennad Prydain Derek Plumbly a Rhodri Morgan yn sefyll, gydag aelod o staff o Lysgenhadaeth Prydain yn eistedd, yn edrych ar glogwyni hir y tu allan i Riyadh

Gyda newid hinsawdd a chynhesu byd-eang ar frig agendâu newyddion, mae allforiwr olew mwyaf y byd, Saudi Arabia, wedi addo torri ei allyriadau carbon i sero net erbyn 2060.

Pan arweiniodd y diweddar Rhodri Morgan, fel Prif Weinidog Cymru, daith fasnach i Saudi Arabia a Dubai ym mis Hydref 2002, roedd Alun Jones yn un o ddau swyddog Llywodraeth Cymru aeth gydag ef. Bellach yn newyddiadurwr gyda'r BBC, mae'n edrych yn ôl ar y daith.

"Dim ond golwg gloi dwi 'di cael ar y ffeil, ond fe wnâi ei darllen yn drylwyr ar yr awyren," meddai'r Prif Weinidog ym maes awyr Heathrow am y dogfennau gan weision sifil yn ei gynghori am y daith.

Yn fuan wedyn roeddem ar yr awyren, Rhodri wrth y ffenestr, a minnau wrth ei ochr.

Ar ei lin roedd ganddo bentwr o bapurau newydd a chylchgronau yr oedd newydd eu casglu. Rhwng darllen y rheini, bwyta a chysgu, roeddwn i'n gallu gweld amser yn llithro heibio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roeddwn i'n gwybod na fyddai dweud "rwy'n credu y dylech chi flaenoriaethu darllen y briff" yn gweithio, ac mae'n debyg y byddai'n ei gythruddo. Doeddwn i ddim eisiau gwneud hynny ar ddechrau taith ddwys.

Felly mi wnes i droi at adran am bethau a fyddai'n sarhau'r gwesteiwyr a dweud "bydd hi'n wyrth os dawn ni adre heb eu pechu". Cymerodd yr abwyd, darllenodd yr adran honno ac yna'r ffeil gyfan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ers 11 Medi 2001 roedd sawl gwlad yn y gorllewin wedi torri nôl ar deithiau masnach i Wladwriaethau'r Gwlff, ond dywedodd Rhodri Morgan mewn datganiad ysgrifenedig am y daith hon fod ei lywodraeth "yn credu'n gryf bod bwlch yn y farchnad"

Roedd un o'r canllawiau am arferion cymdeithasol yn y ffolder briffio, gan adlewyrchu terminoleg y Swyddfa Dramor bryd hynny, yn peri i glychau larwm ganu.

Fe gynghorodd: "Peidiwch â dangos gwadn eich troed i Arabiaid. Mae hwn yn sarhad oherwydd ystyrir bod gwadn y droed yn y byd Arabaidd yn aflan."

Yn ystod cyfarfodydd yn ei swyddfeydd ym Mharc Cathays neu Dŷ Hywel, byddai Rhodri yn aml yn ymestyn ei goesau, neu â ffêr yn gorffwys ar ben-glin. Roedd y canllaw yn parhau "peidiwch 'chwaith ag eistedd yn anhyblyg - traed wedi'i gludo i'r llawr - ac ofn symud".

Ni phrofodd hyn yn broblem iddo yn ystod y daith fasnach hon. Fel y dywed y canllaw, "bydd yr Arabiaid yn hoffi personoliaeth hawddgar a rhadlon".

Yn sicr, roedd ganddo hynny.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan brifddinas Saudi Arabia, Riyadh, boblogaeth o 4.5 miliwn ar y pryd - erbyn hyn mae tua 3 miliwn yn fwy yn byw yno

Profodd un arferiad yn drafferthus. "Derbyniwch goffi neu de bob amser pan gewch gynnig. Fel rheol rhoddir te melys heb laeth i chi ac yna coffi Arabaidd mewn cwpanau bach, traddodiadol, heb ddolen. Mae'n gwrtais derbyn dwy gwpanaid o goffi; mae derbyn dim ond un yn sarhad.

"Pan nad ydych eisiau rhagor, mae angen ysgwyd y cwpan yn ysgafn cyn ei roi yn ôl i'r tywalltwr. Os byddwch chi'n methu â gwneud hyn, cewch gwpanaid arall."

Ond roedd Rhodri wedi cael digon o goffi ar ôl y cyntaf o bedwar cyfarfod olynol ar y diwrnod llawn cyntaf. Yn yr ail gyfarfod dim ond un coffi a gafodd, anghofiodd am ysgwyd y cwpan ac yn lle hynny roddodd ei law drosto pan ddaeth y tywalltwr ato. Gwrthododd goffi yn y cyfarfodydd eraill. Go brin y cawsant eu sarhau - os do cuddiwyd hynny yn gwrtais.

Fe giciodd ei hun ar ôl un sylw, o gofio bod Islam yn gwahardd bwyta porc.

Daeth effaith ddinistriol yr achosion o glwy'r traed a'r genau y flwyddyn flaenorol i fyny mewn sgwrs. Yn ddiweddarach, roedd yn difaru sôn am foch wrth gymharu pa mor hawdd oedd hi i weld symptomau'r clwy' mewn amrywiol anifeiliaid.

Ni ymatebodd y tywysog, ond fe syllodd i'r pellter fel petai'n creu delwedd yn ei feddwl o fochyn heintiedig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lladdwyd a llosgwyd miliynau o anifeiliaid yn ystod yr achosion o glwy'r traed a genau yn y DU yn 2001

Yn ystod y ddau ddiwrnod a hanner yn Riyadh cyfarfu ag aelodau o'r Teulu Brenhinol (os hoffech wybod, Llywodraethwr Riyadh, y Tywysog Salman bin Abdul Aziz Al-Saud a chadeirydd Awdurdod Buddsoddi Cyffredinol Saudi Arabia, y Tywysog Abdulla bin Faisal bin Turki Al-Abdullah Al-Saud), gweinidogion masnach a chynllunio (Usamah Faqih a Khalid bin Muhammad al-Qusaibi yn y drefn honno) ac aelodau o'r gymuned fusnes.

Roedd y ffolder briffio hefyd yn cynghori, "peidiwch â mynegi edmygedd o rywbeth sy'n perthyn i'ch gwesteiwr. Mae hyn yn anghwrtais a gellir cymryd eich bod yn gofyn amdano fel anrheg. Mae'ch gwesteiwr yn eithaf tebygol o fynnu eich bod chi'n ei gadw".

Dim problem, er rhaid i mi gyfaddef ei fod yn demtasiwn mawr i brofi hynny!

Fodd bynnag, nid oedd y briff yn rhagweld sefyllfa arall yn ymwneud ag anrhegion.

Ymhob cyfarfod byddem yn gadael anrheg wedi'i lapio, sef llyfr am Gymru, a derbyniwyd anrheg gan y gwesteiwr. Ond yn amlwg nid oedd un wedi disgwyl anrheg, felly pan roddodd y Prif Weinidog y llyfr, fe ruthrodd swyddogion allan o'r ystafell.

Roedd distawrwydd lletchwith nes iddynt ddychwelyd gyda llun mawr o dirwedd y wlad y gwnaethant ei godi yn ddisymwth oddi ar wal yn y cyntedd. Chwarae teg, fe wnaethant drefnu iddo gael ei gludo i Gymru.

Mynychodd y Prif Weinidog hefyd gyfarfod â chyn-fyfyrwyr Saudi o Brifysgol Cymru. "Mae gan bob un ohonoch y potensial i fod yn llysgenhadon brwdfrydig a rhagorol dros Gymru" meddai wrthyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Shw'mae Dubai?" meddai'r Prif Weinidog wrth gyfarch Cymdeithas Gymreig Dubai

Yn ystod yr ymweliad deuddydd a hanner â Dubai, roedd y Prif Weinidog yn westai swyddogol Sheikh Juma Al Maktoum, un o aelodau hŷn y Teulu Brenhinol yn y rhan honno o'r Emiradau Arabaidd Unedig - cefnder a brawd yng nghyfraith i Sheikh Mohammed, Tywysog Coronog Dubai a gweinidog amddiffyn yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Roedd Rhodri yn westai anrhydeddus mewn derbyniad gyda'r nos a gynhaliwyd gan Gymdeithas Gymreig Dubai. Fe'u cyfarchodd trwy ddweud iddo gael ei demtio i geisio record byd am yr araith fyrraf - "Shw'mae Dubai, goodbye!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gwesty saith seren Burj Al Arab yn lleoliad un cyfarfod yn Dubai, ond roedd aros yno ymhell dros y gyllideb

Cawsom daith o amgylch prosiectau trawiadol yn Internet City a Media City, a phrosiect rhyfeddol Palm Island i adeiladu ynys artiffisial ar ffurf palmwydd - daeth yn drydydd gwrthrych a wnaed gan bobl i fod yn weladwy o'r gofod. Fe aethon ni hefyd ar drip pysgota a barodd sawl awr - dwi ddim yn siŵr pam!

Roedd y Prif Weinidog wedi cael ei friffio gan y Swyddfa Dramor ar gyflwr proses heddwch y Dwyrain Canol a'r sefyllfa yn Irac gyfagos. Roedd "llinellau i'w dyfynnu" yn cynnwys "nid yw gweithredu milwrol yn anochel" ac "ni allwn ganiatáu i uchelgeisiau WMD [arfau dinistr torfol] Saddam Hussein fynd heb eu hatal". Fodd bynnag, ni chododd y pwnc yn ystod cyfarfodydd swyddogol. Roedd ei westeion yn deall yn glir ei fod yn arwain taith fasnach.

Dywed y nodiadau briffio bod "diddordeb mawr yn Dubai mewn cydbwyso datblygu economaidd a gofal am yr amgylchedd", ond cofiaf y pwyslais cryf ar y cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Alun Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cardiau busnes fel arfer yn Gymraeg a Saesneg, ond ar gyfer y daith hon disodlodd Arabeg y Gymraeg

Ffynhonnell y llun, Alun Jones

Cymerodd naw cwmni o Gymru ran yn y daith fasnach a dywedodd y Prif Weinidog yn ddiweddarach wrth aelodau'r Cynulliad, fel y'u gelwid bryd hynny, "mae'r ymweliad wedi creu enillion busnes posibl sylweddol i Gymru".

Ychwanegodd, "Rwyf wedi dod â rhai negeseuon clir yn ôl, gan gynnwys y potensial enfawr a gynrychiolir gan farchnad y Dwyrain Canol, sy'n tyfu'n gyflym, a'r dull galluog o ddatblygu prosiectau diwydiannol a thwristiaeth mawr o fewn cyfnodau cymharol fyr".

Ni cheisiodd swyddogion y wasg Llywodraeth Cymru gyhoeddusrwydd am y daith fasnach hon ar y pryd, a'r llun ar y clogwyn hir yw'r unig un y gwn amdano o'r daith. Roedd yn gyfnod cyn i ffonau camera a chyfryngau cymdeithasol ddod yn hollbresennol, ac nid oedd palasau brenhinol a gwestai crand yn gyfleoedd i wella delwedd "dyn y bobl" Rhodri.

Serch hynny, fy atgof pennaf yw am ei allu i siarad ag unrhyw un - o werin Cymru i dywysogion y Dwyrain Canol.

Ffynhonnell y llun, Alun Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gweithio yn swyddfa breifat y Prif Weinidog Rhodri Morgan yn gyfnod hapus iawn yn fy ngyrfa.

Cymru - Emiradau Arabaidd Unedig

Yn 2020, gwerth y fasnach nwyddau rhwng Cymru a'r Emiradau Arabaidd Unedig oedd £484.6 miliwn, sef allforion gwerth £286.4 miliwn a mewnforion gwerth £198.2 miliwn.

Yn 2020, yr Emiradau Arabaidd Unedig oedd y 10fed farchnad allforio fwyaf yng Nghymru, gan gyfrif am 2.1% o allforion nwyddau, a'r 18fed ffynhonnell fwyaf o fewnforion gan gyfrif am 1.4% o gyfanswm y mewnforion nwyddau i Gymru.

Cymru - Saudi Arabia

Yn 2020, gwerth y fasnach nwyddau rhwng Cymru a Saudi Arabia oedd £258.1 miliwn, sef allforion gwerth £79.6 miliwn a mewnforion gwerth £178.5 miliwn.

Yn 2020, Saudi Arabia oedd y 27ain marchnad allforio fwyaf i Gymru gan gyfrif am 0.6% o allforion nwyddau, a'r 19eg ffynhonnell fwyaf o fewnforion gan gyfrif am 1.3% o gyfanswm y mewnforion nwyddau i Gymru.

Hefyd o ddiddordeb: