Cynlluniau i ehangu Seiont Manor sydd ar gau ers dwy flynedd
- Cyhoeddwyd
Fe allai gwesty a gaeodd ei ddrysau ddwy flynedd yn ôl gael ailddatblygiad mawr, ar ôl i gynlluniau gael eu cyflwyno i Gyngor Gwynedd.
Caeodd Gwesty Seiont Manor, ar gyrion Llanrug ger Caernarfon, ei ddrysau ym mis Ionawr 2020 cyn mynd i ddwylo'r derbynwyr.
Cyn hynny, bu'n rhaid canslo cinio Nadolig y gwesty moethus am nad oedd staff wedi cael eu talu.
Ond mae cynlluniau cychwynnol a gyflwynwyd i'r cyngor sir gan ei berchnogion newydd, Caernarfon Properties Ltd, eisiau ehangu'r gwesty.
Yn ôl y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol, mae disgwyl i adran gynllunio Cyngor Gwynedd ystyried y cais dros y misoedd nesaf, ond does dim sicrwydd y bydd y cynlluniau'n cael eu gwireddu.
'Colledion ers 14 mlynedd'
Os yn llwyddiannus, byddai 33 ystafell wely ychwanegol, 39 porthdy gwyliau newydd a gwelliannau i'r cyfleusterau gwesteion gan gynnwys cyrtiau tenis, bloc llety staff ac ystafell offer biomas.
Yn ôl y cais, byddai 20 swydd llawn amser yn cael eu creu pe byddai'n cael ei gymeradwyo.
Dywed y perchnogion newydd fod y busnes wedi gwneud colledion ariannol parhaus am 14 mlynedd a'i fod bellach yn "anghynaladwy yn ei ffurf bresennol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2019