Apêl heddlu i atal ail barti mawr ar draeth Cricieth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi rhoi rhybudd i ysgolion yn sgil honiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn parti ar un o draethau Gwynedd y penwythnos diwethaf.
Dywed Tîm Plismona'r Gymdogaeth eu bod wedi eu galw i "barti mawr ar lan y môr" Cricieth gydag hyd at 200 o bobl ifanc.
Daeth i'r amlwg bod plant mor ifanc â 12 oed yn yfed alcohol yno.
Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr yr heddlu at ysgolion lleol yn rhybuddio bod "parti arall wedi ei drefnu ar gyfer nos Wener yma".
Yn ôl y llu, roedd bachgen 16 oed o Ynys Môn "wedi meddwi'n beryglus" a bu'n rhaid galw am ambiwlans.
Gan fod y gwasanaeth ambiwlans mor brysur, bu'n rhaid i rieni'r bachgen ei gludo i adran ddamweiniau ac achosion brys.
Mae BBC Cymru hefyd wedi gweld lluniau fideo sy'n dangos pobl ifanc yn yfed a thorri poteli ar stryd fawr y dref.
Cafodd alcohol ei atafaelu wrth i swyddogion lleol ymateb i "sawl digwyddiad".
Mae'r heddlu wedi cysylltu ag ysgolion lleol er mwyn rhannu neges gyda rhieni a gwarchodwyr ynghylch digwyddiadau'r penwythnos diwethaf ar draeth Cricieth.
Yn ôl y neges roedd "150-200 o blant yno yn yfed" ac wedi teithio i'r traeth o bob rhan o Wynedd a Môn.
"Mi gafodd un neu ddau eu brifo a hefyd achoswyd difrod troseddol," ychwanega, ac roedd "problemau mawr" gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.
Dywed y llu wedyn eu bod "wedi cael gwybodaeth" bod parti arall wedi ei drefnu ar gyfer nos Wener yma.
Maen nhw'n apelio ar rieni a gwarchodwyr am eu cydweithrediad gyda'r bwriad o "geisio datrys y broblem cyn iddo ddechrau" a diogelu'r plant a phobl yr ardal.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Fel cyngor, rydym yn cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid eraill i weithio i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Mae ysgolion wedi rhannu neges gan yr heddlu i deuluoedd i'w gwneud yn ymwybodol o ddigwyddiad diweddar er mwyn ceisio sicrhau diogelwch pobl ifanc yr ardal."
'Codi ofn' ar drigolion
Wrth ymateb i'r digwyddiad dywedodd Sian Williams, cadeirydd Cyngor Tref Cricieth, ei bod hi'n "deall... pa mor anodd mae'r cyfnod diwethaf wedi bod i bobl ifanc 'efo'r pandemig" ond fod yr ymddygiad a welwyd yn "broblem".
"Mae'n bwysig rŵan i'r heddlu weithio gyda'r bobl ifanc a'u rhieni ac ella mynd mewn i siarad mewn ysgolion am bwysigrwydd bod yn ofalus," meddai.
"O ddeud hynny ac o siarad efo trigolion heddiw, dwi 'di synnu faint oedd wedi clywed a gweld hyn, a faint 'naeth o godi ofn arnyn nhw."
Ychwanegodd: "Mae plant yn cwrdd yma weithiau yn yr haf ar ddiwedd tymor ond 'di hynny ddim yn creu helynt.
"Roedd nos Sadwrn yn wahanol - dipyn yn fwy - a 'di sefyllfaoedd fel hyn ddim yn digwydd yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021