Cwest: Aneglur a oedd athrawes wedi bwriadu lladd ei hun

  • Cyhoeddwyd
elin boyleFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Elin Boyle yn Nhrwyn yr As, Bro Morgannwg ym mis Mawrth 2019

Mae crwner wedi cofnodi casgliad naratif yng nghwest athrawes 43 oed o Gaerdydd.

Cafwyd hyd i gorff Elin Boyle yn Nhrwyn yr As (Nash Point), Bro Morgannwg ym mis Mawrth 2019, bum diwrnod ar ôl iddi fynd ar goll o'i chartref.

Roedd Mrs Boyle yn athrawes boblogaidd yn Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd.

Dywedodd Crwner Cynorthwyol Canol De Cymru, Dr Sarah-Jane Richards, ei bod wedi dod i'r casgliad bod Mrs Boyle yn gyfrifol am ei marwolaeth ei hun, ond doedd hi ddim yn bosib dweud a oedd hi wedi bwriadu gwneud hynny.

Clywodd y cwest bod ganddi hanes o broblemau iechyd meddwl, ac wedi bod yn cael triniaeth yn uned iechyd meddwl Hafan y Coed yn Llandochau ger Caerdydd ychydig cyn ei marwolaeth.

Fe alwodd ei theulu yr heddlu nos Fawrth, 12 Mawrth 2019, ar ôl iddi fynd ar goll o'i chartref.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elin Boyle yn athrawes boblogaidd yn Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd

Cafodd peth o'i heiddo ei ddarganfod ar y clogwyn yn Nhrwyn yr As y bore Sadwrn canlynol, ac fe gafodd ei chorff ei ddarganfod gan aelod o wylwyr y glannau fore Sul, 17 Mawrth.

Clywodd y cwest bod Mrs Boyle wedi mynd ar goll o'i chartref, ac o'r ward lle roedd hi'n cael triniaeth ar sawl achlysur yn y misoedd blaenorol, a'i bod wedi'i darganfod naill ai gan ei theulu neu'r heddlu mewn nifer o lefydd ar yr arfordir, gan gynnwys Rhosili ar Benrhyn Gŵyr, Southerndown ym Mro Morgannwg, a Minehead a Weston-super-Mare yng Ngwlad yr Haf.

Yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty yn Llandochau, roedd hi wedi bod yn cael therapi ar ôl sôn ei bod wedi ystyried lladd ei hun.

Bwrdd iechyd yn cynnal ymchwiliad

Yn dilyn marwolaeth Mrs Boyle fe fu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn cynnal ymchwiliad i'r gofal gafodd hi.

Dywedodd Jayne Bell, sy'n uwch nyrs gwasanaethau iechyd meddwl, wrth y cwest bod teulu Mrs Boyle wedi cwyno cyn ei marwolaeth ynglŷn â'i thriniaeth.

Ychwanegodd bod y bwrdd iechyd wedi nodi rhai gwendidau, gan gynnwys diffyg eglurder ynglŷn ag union natur y diagnosis gafodd Mrs Boyle, a diffyg gwaith papur yn nodi'r driniaeth fyddai ar gael iddi yn y gymuned ar ôl gadael yr ysbyty.

Dywedodd bod y bwrdd iechyd wedi cyflwyno cynllun gweithredu yn sgil achos Mrs Boyle, a bod rhai gwelliannau eisoes wedi'u cyflwyno.

'Ei chofio am ei gwaith caled'

Yn dilyn yr achos, fe wnaeth y cyfreithiwr Carys Jones ddatganiad ar ran y teulu.

"Mae wedi cymryd amser i'r cwest gael ei gynnal, ond yn yr amser hynny mae'r bwrdd iechyd wedi cyflwyno sawl mesur i wella eu gwasanaeth iechyd meddwl.

"Gobaith y teulu yw bydd y mesurau yma yn helpu cleifion sydd mewn sefyllfaoedd tebyg i Elin yn y dyfodol i gadw'n saff ac i gadw'n ddiogel.

"Buasai'r teulu hefyd yn hoffi bod Elin yn cael ei chofio yn y dyfodol am y gwaith caled fuodd hi'n gwneud yn y gymuned - yn enwedig yn Ysgol Plasmawr."