Pump tip i deuluoedd fyw'n fwy gwyrdd
- Cyhoeddwyd
Rydym wedi bod yn clywed tipyn o sôn am ddyfodol ein planed dros y cyfnod diwethaf yn sgil cynhadledd COP26. A gyda'r argyfwng newid hinsawdd yn peri cryn ofid i nifer, mae'r anhwylder eco-bryder ar gynnydd.
Ond er ei bod hi'n gallu teimlo fel bod y pŵer i newid y darlun yn gorwedd yn nwylo'r gwleidyddion, mae 'na bethau y gall pob cartref eu gwneud i helpu'r sefyllfa.
Yma ar BBC Cymru Fyw, rydym wedi crynhoi pump tip syml y gall teuluoedd ystyried eu mabwysiadu er mwyn byw'n wyrddach:
Prynu'n ail law a gwerthu ymlaen ar-lein
Yn ôl un sydd wedi bod yn prynu a gwerthu ar-lein am dros ugain mlynedd, mae buddion economaidd personol yn ogystal â rhai amgylcheddol wrth brynu a gwerthu nwyddau o'r cartref ar-lein.
"Nos Sul yw'r amser gorau i roi pethau fyny ar eBay," meddai Teleri James Jones yn argyhoeddedig wrth siarad ar Gwneud Bywyd yn Haws ar BBC Radio Cymru.
"Ar Facebook wedyn, mae'r amseroedd ychydig bach yn wahanol. Dwi'n dueddol o roi pethau ar Marketplace ar ddiwedd yr wythnos; mae'n rhoi amser i'r person feddwl os oes amser gyda nhw i ddod i'w gasglu dros y penwythnos.
"Mae Sphock a Vinted yn dueddol o werthu dillad a'ch accessories a handbags," meddai. "Mae Depop yn groesiad o siop ddillad a Instagram gyda lot o ddillad o'r 80au a'r 90au yn cael eu rhestru yna."
Mae hi hefyd yn defnyddio Freecycle i waredu nwyddau am ddim, ac ar Gumtreea Nextdoor gallwch werthu bron â bod unrhywbeth. Yn wir, mae platfform ar gyfer popeth!
Os oes eitemau trydanol gennych fel ffonau symudol, cyfrifiaduron neu gryno ddisgiau ac ati, cyngor Teleri yw i ddefnyddio gwefannau penodol. "Mae'n werth edrych mewn i Music Magpie," meddai "achos maen nhw'n ailgylchu lot o'r eitemau yma, fel y batris lithium sydd yn y peiriannau."
Diffodd goleuadau a switsys
Rhywbeth bach y gallwn oll ei wneud ydy diffodd goleuadau a pheiriannau o amgylch y tŷ.
Yn ôl The Energy Saving Trust, petai pob tŷ yn y Deyrnas Unedig yn gwneud hynny, byddai'n arbediad ariannol o £960 miliwn a 1,480 miliwn tunnell o allyriadau carbon y flwyddyn!
Weips a chlytiau aml-ddefnydd!
Os oes plant bach gennych, byddwch chi'n gwybod nad ydy'r weips yna fyth yn bell o'ch gafael! Am gyfnewidiad eco hawdd, beth am ddefnyddio gwlanen neu gadach y mae modd eu hail-ddefnyddio yn hytrach na rhai un-defnydd?
Nid dim ond ar gyfer plant yw hyn - mae modd gwneud y newid hefyd wrth ofalu am y croen neu dynnu colur.
Os ydy clytiau yn stapl yn eich tŷ chi, wel, dydy hi fyth yn rhy hwyr i drio rhai aml-ddefnydd! Dyma oedd testun sgwrs rhwng Dr Angharad Wyn ac Elliw Gwawr ar Gwneud Bywyd yn Haws wrth iddyn nhw drafod eu penderfyniad i wneud y newid gyda'u babanod.
I'r ddwy, gwneud y penderfyniad oedd y peth anoddaf am y broses. Eglurodd Elliw: "Nes i ffeindio llyfrgell glytiau yn lleol a menthyg bag o glytiau gwahanol ganddyn nhw fel fy mod i ddim yn gorfod buddsoddi yn y lle cyntaf, jyst er mwyn i fi allu arbrofi a ddim teimlo fel fy mod i'n gorfod buddsoddi ac ymrwymo iddo fo yn llwyr, ond jyst gwneud beth roeddwn i'n teimlo fy mod i'n gallu yn y misoedd cyntaf yna."
Ac i glymu gyda tip rhif 1, mae modd gwerthu'r clytiau ymlaen gan olygu nad dim ond un teulu y byddant yn medru eu gwasanaethu. "Nes i brynu ychydig yn ail law ac ro'n nhw fel newydd," medd Dr Angharad. "'Sai'n teimlo'n embarrassed yn dweud fy mod wedi prynu cewyn aml-ddefnydd yn ail law."
Ailgylchu Nwyddau Meddygol
Mae gan bob cartref wastraff meddygol, hyd yn oed os mai dim ond pecyn o paracetemols yw hynny, ac mae nifer o fferyllfeydd yn derbyn eitemau meddygol er mwyn eu hailgylchu.
"Gyda phecynnau tabledi, er enghraifft, yn amlwg gall y bocs cardfwrdd fynd i'r ailgylchu," esbonia Dr Angharad, "ond gall y pecyn tu fewn - y blister packs lle mae'r tabled yn dod alla ohono - gall rheina hefyd fynd nôl i ambell fferyllfa i drefnu eu bod nhw'n cael eu hailgylchu neu'n cael eu defnyddio mewn dull gwahanol."
Mae'r rhestr hefyd yn cynnwys inhalers ar gyfer clefydau fel Asthma. Holwch yn lleol i weld beth sydd ar gael yn eich ardal chi.
Her y Mis!
Fel gyda phopeth, ar y dechrau mae gwneud newidiadau yn gallu bod yn anodd, ond unwaith i rywbeth ddod yn 'arfer', mae'n cymryd llai o waith meddwl ac o ganlyniad, mae bywyd yn sicr yn haws!
Efallai eich bod chi neu'r plant yn ymateb yn dda i her, felly beth am ganolbwyntio ar un peth y mis fel teulu? Mae digon o syniadau ar gael fel her zero waste, neu brynu pethau ail-law yn unig am fis a phrynu pethau sydd heb unrhyw becynnu o'u hamgylch am fis arall… mae'r posibiliadau yn ddi-ben-draw!
Cam dros y trothwy yw hanner y daith medd yr hen ddywediad.