Yr actores Ceri Lloyd a cheisio byw bywyd di-wastraff

  • Cyhoeddwyd

Mae llawer o drafod ynglŷn â cheisio byw bywyd 'di-wastraff' neu 'ddi-blastig' yn ddiweddar, yn arbennig ers cyfres y BBC Blue Planet 2 y llynedd, ble'r oedd golygfeydd digalon o anifeiliaid yn nofio drwy fôr o blastig.

Mae'r actores Ceri Lloyd yn cadw blog, Eat Sleep Organic, dolen allanol, gyda'i ffrind Natalie, ac wedi bod yn ceisio byw bywyd mwy 'cynaliadwy' ers peth amser. Mae hi'n dweud ei fod yn "lot haws na beth ma' pobl yn ei feddwl":

Ffynhonnell y llun, Ceri Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Cofiwch eich cwpan rhag ofn y byddwch chi ffansi paned o goffi

Yn ddiweddar, gwelais i'r ffilm ddogfen Plastic Ocean ar Netflix. (Os ydych chi heb ei wylio fe eto, fe ddyle chi!) Ma'n dangos yn glir yr effaith yr ydym ni fel pobl yn ei gael ar y blaned. Ma' fe'n dorcalonnus.

Felly 'nes i benderfynu fod rhaid i mi ddechrau cymryd cyfrifoldeb am y ffordd 'y fi'n byw a'r penderfyniadau 'y fi'n eu gwneud.

Trwy fy mlog, nes i gyfweld menyw o'r enw Kate sydd yn byw bywyd zero waste a dysgu ganddi sut mae hi'n llwyddo i fod yn gynaliadwy, a beth allen i 'neud i fyw yr un ffordd.

Ond fe wnes i sylweddoli bod byw bywyd hollol ddi-wastraff yn amhosib i fi. Ma' Kate yn byw yng nghanol Llundain gyda mynediad i siopau anhygoel sydd wedi ymroddi i beidio cynhyrchu gwastraff, a ma'n sefyllfa i yng ngogledd Cymru yn wahanol iawn.

Ma' 'na derm newydd wedi dod ar y sîn o'r enw low waste. Fi'n credu bod y term yma yn disgrifio lot yn well yr hyn rwy'n trial ei 'neud: sef torri lawr ar brynu plastig!

Disgrifiad o’r llun,

Pysgodyn yn nofio drwy fôr o blastig ar Blue Planet 2. Dywedodd y tîm eu bod wedi casglu pob darn o blastig yr oedden nhw wedi ei weld wrth ffilmio

Araf bach a bob yn dipyn...

Ma' 'na gwpwl o bethau hawdd iawn yr allech chi 'neud heddiw sydd ddim yn costi lot o arian - i'r gwrthwyneb, mae'n safio arian i chi - sydd hefyd ddim yn cymryd lot o ymdrech ond sydd yn 'neud gwahaniaeth hiwj i'r blaned:

  1. Prynu cwpan coffi a'i gymryd e gyda chi yn y car/bag i bobman!

  2. Prynu potel o ddŵr ailddefnyddiadwy a llenwi'r botel yma pryd 'y chi mas yn lle prynu potel blastig.

  3. Prynu cyllell a fforc wedi'u 'neud o bambŵ a'u defnyddio nhw yn lle rhai plastig.

  4. Rhoi eich gwastraff bwyd mewn bin compost a chofiwch ailgylchu!

  5. Defnyddio bag cotwm i siopa yn lle cymryd bag plastig. Dwi'n gadael lot o fy tote bags yn y car felly fyddai byth yn eu anghofio!

Falle fod y pethau uchod ddim yn swnio fel lot ond mae'n gallu lleihau'n heffaith ar y blaned yn sylweddol.

Ffynhonnell y llun, Ceri Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceri yn dilyn diet figan ac yn prynu llysiau sydd ddim mewn pecynnau plastig

Beth mwy allwch chi ei wneud?

Os ydych chi yn barod yn 'neud y camau uchod allwch chi wedyn edrych i mewn i bethau eraill yn eich bywyd!

Dwi wedi bod yn dilyn diet figan plant based am dros bum mlynedd ac yn teimlo fod torri lawr ar gig neu dynnu cig o'ch diet yn gyfan gwbl ddim jest yn cael effaith anhygoel ar eich iechyd ond ar y blaned hefyd. A dyw ychwanegu mwy o blanhigion i ddiet rhywun erioed wedi'u lladd nhw!

Ma' archfarchnadoedd yn llefydd anodd i siopa os ydych yn trial torri lawr ar blastig felly fysen i hefyd yn annog pobl i siopa'n lleol - sydd yn well i'r blaned 'ta beth!

Allwch hefyd fynd ar y we i weld os ma' 'na farchnad ffermwyr o'ch cwmpas i nôl llysiau sydd heb eu lapio mewn plastig. Mae'n rhyfeddol beth gallwch ei ffeindio ar eich stepen drws weithiau!

Ffynhonnell y llun, Ceri Lloyd

Un peth arall rydw i'n ei gymryd i ystyriaeth yw ffasiwn cynaliadwy. Mae dewis prynu eich dillad o gwmnïau sydd yn ceisio torri lawr ar ei ôl-troed carbon, yn defnyddio cotwm organig sydd ddim yn cynnwys cemegion a sydd hefyd yn cynnig tâl teg i'w gweithwyr yn un ffordd arall y gallech chi helpu'r blaned.

Rydw i hefyd yn ceisio defnyddio'r cynnyrch ymolchi sydd ar gael mas yna sydd ddim wedi'i lapio mewn plastig, ddim yn cael ei brofi ar anifeiliaid, yn saff i roi ar ein croen ac yn hollol figan.

Pan mae ond un person arall yn dechrau cymryd y camau yma, ma' fe'n gallu 'neud gwahaniaeth anferthol!

Hefyd o ddiddordeb: