Gall drysau oergell siopau arbed defnydd ynni'r DU

  • Cyhoeddwyd
Rhewgelloedd gyda drysauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Aldi'n amcangyfrif y bydd siopau gyda drysau ar eu hoergelloedd yn defnyddio 20% yn llai o drydan

Fe allai defnydd y DU o drydan ostwng 1% petai'r pum prif archfarchnad yn rhoi drysau ar oergelloedd, medd ymgyrchwyr.

Mae cwmni Aldi wedi gwneud addewid i roi drysau ar oergelloedd ei holl siopau newydd yn y DU, gan arbed 2,000 o dunelli metrig o garbon y flwyddyn.

Dywed archfarchnadoedd eraill eu bod am geisio sicrhau bod oergelloedd agored yn fwy effeithlon.

Ond dywed y mudiad amgylcheddol, EIA (Environmental Investigation Agency) y gallai archfarchnadoedd gwtogi eu biliau trydan 33% ar gyfartaledd, dolen allanol drwy osod drysau.

Dywed cwmni Aldi y bydd pob un o'u 100 o siopau newydd yn arbed 20 tunnell fetrig o garbon bob blwyddyn trwy osod drysau ar oergelloedd, gan leihau eu defnydd o ynni 20%.

Yn ôl cricedwr Morgannwg, Joe Cooke, sydd hefyd yn ymgyrchydd amgylcheddol, dylai pob archfarchnad sydd â siopau yng Nghymru, ddilyn esiampl Aldi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Cooke yn galw am newid "syml" sydd â photensial i wneud gwahaniaeth

"Mae'n newid mor syml," meddai. "Fe allai arbed gymaint o egni sy'n mynd i fod mor bwysig wrth inni geisio dad-garboneiddio a gwneud newidiadau i fod yn wlad wyrddach."

Yn ôl Cooke dim ond siopau Co-op ac Aldi sydd wedi ymroi i osod drysau ar oergelloedd ar bob un o'u siopau newydd a siopau sy'n cael eu hailwampio.

"Mae cyflwyno drysau oergell yn gam arall y siwrne i leihau ein defnydd o ynni ac rydym yn gobeithio bod cwsmeriaid yn mwynhau'r profiad siopa newydd, mwy cynaliadwy," dywedodd rheolwr gyfarwyddwr cyfrifoldeb corfforaethol Aldi, Mary Dunn.

Dywed cwmnïau Tesco, Sainsbury's, Morrisons, Waitrose ac M&S eu bod am ddefnyddio technolegau "wal aer" sy'n cyfeirio aer oer tuag ar gefn cypyrddau arddangos i arbed ynni.

Dywedodd Lidl eu bod yn defnyddio llenni pan fo'u siopau ar gau a dywed Asda bod bwriad cael arbrawf gosod drysau yn 2022.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o'r archfarchnadoedd yn ceisio gwneud y silffoedd arddangos bwydydd arferol yn fwy effeithlon

Mae gwaith ymchwil yn Sweden wedi awgrymu bod oergelloedd gyda drysau'n perfformio'n well na'r cypyrddau arddangos agored mwyaf effeithlon, a bod drysau ddim yn peri anhawster i gwsmeriaid.

Awgrymodd yr ymchwil hefyd bod archfarchnadoedd, sy'n gosod drysau ar oergelloedd, yn gweld llai o wastraff bwyd ac yn helpu torri biliau cynhesu yn y gaeaf.

Yn 2019, fe wnaeth pwyllgor deisebau Cynulliad Cymru, fel ag yr oedd ar y pryd, drafod ymgyrch i wahardd oergelloedd agored mewn archfarchnadoedd cyn dod i'r casgliad nad oedd gan Gymru'r pwerau i ymyrryd.

Yn yr un flwyddyn, fe benderfynodd Llywodraeth y DU i beidio gwahardd oergelloedd agored mewn siopau gan ddweud bod camau ar droed i wella effeithlonrwydd ynni.

Mewn datganiad, dywedodd yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Fusnes eu bod "yn edrych ar ffyrdd amrywiol o annog mwy o effeithlonrwydd ynni" ac yn "annog manwerthwyr i gynyddu eu defnydd o dechnoleg ynni-effeithlon pan fo hynny'n bosib".

Pynciau cysylltiedig