Menyw 78 oed yn marw mewn tân yng Nghwm Tawe Uchaf

  • Cyhoeddwyd
Heol Cefnbyrle, CoelbrenFfynhonnell y llun, Google

Mae menyw oedrannus wedi marw mewn tân yn ne Powys.

Fe ddigwyddodd y tân ddydd Mercher yn Heol Cefnbyrle ym mhentref Coelbren, ger Ystradgynlais yng Nghwm Tawe Uchaf.

Mae perthnasau'r fenyw 78 oed wedi cael eu hysbysu ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol Heddlu Dyfed-Powys.

Mae'r llu'n cynnal ymchwiliad i achos y tân ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ond mae'r achos yn cael ei drin fel un heb esboniad ar hyn o bryd.

Dywed y llu bod yna ymdrechion i leihau unrhyw amhariad tra bod ardal y tân yn dal wedi ei hamgylchynu wrth i'r ymholiadau barhau.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig